Dewis unedau priodol
Mae鈥檙 unedau metrig sydd yn cael eu defnyddio鈥檔 aml i fesur hyd yn cynnwys:
- cilometrau (\({km}\))
- metrau (\({m}\))
- centimetrau (\({cm}\))
- milimetrau (\({mm}\))
Amcangyfrif
I ganfod uned addas i fesur rhywbeth ynddi, yn gyntaf dylet ti amcangyfrif pa mor fawr ydy鈥檙 peth. Er enghraifft, wyt ti鈥檔 meddwl ei bod yn well mesur y pellter rhwng Caerdydd a Bangor mewn metrau neu cilometrau? Neu, a ddylid mesur hyd pryfyn mewn metrau neu milimetrau?
Dychmyga beth ydy hyd y pethau rwyt ti鈥檔 eu hamcangyfrif, neu dychmyga eu mesur mewn perthynas 芒 phethau eraill. Er enghraifft:
- Dychmyga bren mesur \({1}~metr\) nesaf at ddyn tal. Byddet ti鈥檔 disgwyl iddo fod yn dalach nag un pren mesur, ond ddim cyn daled 芒 \({3}\) phren mesur.
- Dychmyga fag o siwgr ar glorian. Byddet ti鈥檔 disgwyl i鈥檙 nodwydd symud rywfaint, ond nid i wibio'n syth at \({50}~{kg}\).
- Dychmyga botel \({1}~{litr}\) o ddiod cola. Byddet ti鈥檔 disgwyl iddi ddal tua鈥檙 un faint 芒 fflasg fawr.
Question
Pa uned fesur (\({km},~{m},~{cm}\) neu \({mm}\)) fyddet ti鈥檔 ei defnyddio i fesur y canlynol?
a) rhychwant dy law
b) hyd cae p锚l-droed
c) trwch llyfr
ch) y pellter o Gaerdydd i Fangor
a) \({cm}\)
b) \({m}\)
c) \({mm}\)
ch) \({km}\)
Question
a) Beth ydy taldra tebygol dyn tal: \({90}~{cm},~{180}~{cm}\) neu \({360}~{cm}\)?
b) Ydy pwysau bag o siwgr tua \({1}~{kg},~{10}~{kg}\) neu \({50}~{kg}\)?
c) A fyddai fflasg fawr yn dal tua \({200}~{ml},~{1}~{l}\) neu \({10}~{l}\) o hylif?
a) \({180}~{cm}\)
b) \({1}~{kg}\)
c) \({1}~{l}\)