大象传媒

MesurauUnedau Imperial

Cyn mesur rhywbeth, mae angen gwybod pa uned i鈥檞 defnyddio. Gelli di wneud hyn drwy amcangyfrif ei faint yn fras. Wrth drosi rhwng unedau, mae rhai rheolau syml y dylet ti eu dilyn.

Part of MathemategMesurau

Unedau Imperial

Ym Mhrydain mae unedau traddodiadol yn dal yn gyffredin iawn. Mae鈥檙 rhain yn cael eu galw'n unedau Imperial, ac maen nhw鈥檔 cynnwys:

Mesur hyd 鈥 modfedd, troedfedd, llathen, milltir. Yn fras, dyma sut mae nhw鈥檔 cymharu gyda鈥檙 unedau metrig:

  • \({1~fodfedd} = {1}\)" \(\approx{2.5}~cm\)
  • \({1~droedfedd} = {1}\)' = \({12}\)" \(~\approx{30}~cm\)
  • \({1~lathen} = {3}\)' = \({36}\)" \(~\approx{0.9}~m\) (sef ychydig llai nag \({1}~m\))
  • \({1~filltir} = {1760~llathen}\approx{1.6}~km\)(neu \({8}~km\approx{5~milltir})\)

Cofia mai ystyr \(\approx\) ydy 鈥榯ua鈥.

Question

Defnyddia鈥檙 wybodaeth hon i amcangyfrif:

a) \({8}\)" mewn \({cm}\)

b) \({2}\)'\({6}\)" mewn \({cm}\)

c) \({100}~{m}\) mewn \({llathenni}\)

ch) \({20}~km\) mewn \({milltiroedd}\)