大象传媒

Rhydocs i echdynnu haearn a metelau trosiannolY metelau trosiannol

Mae adweithiau rhydocs yn digwydd wrth echdynnu metelau o鈥檜 mwynau, er enghraifft echdynnu haearn drwy ei rydwytho yn y ffwrnais chwyth. Mae gan y metelau trosiannol ymdoddbwyntiau a dwyseddau uchel, maen nhw鈥檔 ffurfio cyfansoddion lliw ac maen nhw鈥檔 gweithredu fel catalyddion.

Part of CemegMetelau ac echdynnu metelau

Y metelau trosiannol

Y metelau trosiannol yw鈥檙 elfennau yn rhan ganol y tabl cyfnodol.

Tabl cyfnodol yn amlygu'r metelau trosiannol.

Mae鈥檙 metelau trosiannol yn rhannu鈥檙 priodweddau canlynol.

  • Maen nhw鈥檔 ffurfio cyfansoddion lliw.
  • Maen nhw鈥檔 dargludo gwres a thrydan yn dda.
  • Maen nhw鈥檔 hydrin, hynny yw hawdd eu morthwylio neu eu plygu i mewn i si芒p.
  • Maen nhw鈥檔 llai adweithiol na鈥檙 metelau alcali, fel sodiwm.
  • Mae ganddyn nhw ymdoddbwyntiau uchel 鈥 ond mae mercwri yn hylif ar dymheredd ystafell.
  • Maen nhw fel arfer yn galed a gwydn.
  • Fel arfer, mae ganddyn nhw ddwysedd uchel.
  • Maen nhw鈥檔 gallu ffurfio 茂onau 芒 gwahanol wefrau. Er enghraifft, mae haearn yn gallu colli dau electron i ffurfio 茂onau Fe2+ neu mae鈥檔 gallu colli tri electron i ffurfio 茂onau Fe3+. Enghraifft arall yw Cu+ a Cu2+.