Rhyngwynebau wedi鈥檜 gyrru gan ddewislenni
Dewislen syml
Mae鈥檙 defnyddiwr yn cael cynnig dewislen syml i ddewis opsiwn ohoni. Yn aml iawn mae un ddewislen yn arwain at ddewislen arall. Efallai y bydd rhan o鈥檙 sgrin yn cynnwys cyfarwyddyd yn cael ei ddilyn gan restr o opsiynau wedi鈥檜 rhifo i ddewis ohonynt.
Dewislen sgrin lawn
Mae dewislen sgrin lawn yn defnyddio鈥檙 sgrin gyfan.
Bar dewislenni
Bar dewislenni yw鈥檙 set o opsiynau yn rhan uchaf y sgrin. Pan fydd opsiwn yn cael ei ddewis mae鈥檔 bosibl y bydd cwymplen i鈥檞 gweld.
Mae nodweddion rhyngwynebau wedi鈥檜 gyrru gan ddewislenni yn cynnwys y canlynol:
- maen nhw鈥檔 hawdd i鈥檞 defnyddio gan nad oes rhaid i鈥檙 defnyddiwr gofio setiau o orchmynion
- maen nhw鈥檔 ystyriol o鈥檙 defnyddiwr (yn 鈥榞yfeillgar鈥) 鈥 yn aml iawn mae鈥檔 bosibl i ti ddyfalu dy ffordd o gwmpas yr opsiynau
- maen nhw鈥檔 gallu bod yn ddiflas os oes gormod o lefelau o ddewislenni i symud o鈥檜 cwmpas 鈥 mae rhyngwyneb llinell orchymyn yn gadael i ti fynd yn syth at yr opsiwn sydd ei angen