I Ble'r Aeth Haul y Bore? gan Eirug WynTrionglau gwrthdaro'r cymeriadau
Mae'r nofel hon wedi ei seilio ar hanes Taith Fawr y Navaho ym 1864. Mae'n llawn gwrthdaro rhwng cymeriadau hanesyddol a dychmygol o blith y Navaho, yr Apache a'r Cotiau Glas.
Ar ben y triongl hwn mae Manuelito ac yn y ddwy gornel ar y gwaelod mae Herrero Grande ac Armijo.
Mae hwn yn driongl pwysig i鈥檞 gofio oherwydd ceir gwrthdaro mawr rhwng y cymeriadau hyn yn y nofel. Mae Manuelito eisiau ymosod ar y Cotiau Glas ac mae Armijo eisiau ildio, ond rhaid i鈥檙 ddau rico wrando ar benderfyniad Herrero Grande. Mae Herrero yn ochri ag Armijo a gwna hyn i Manuelito deimlo鈥檔 rhwystredig iawn.
Triongl gwrthdaro鈥檙 llwythau
Ar ben y triongl hwn mae Manuelito ac yn y ddwy gornel ar y gwaelod mae Geronimo a Chico.
Mae hwn yn driongl pwysig i鈥檞 gofio oherwydd mai un o鈥檙 Navaho ydy Manuelito a dau Apache ydy Geronimo a鈥檌 lysfab Chico. Roedd y Navaho yn llwyth heddychlon ac yn awyddus i drafod 芒鈥檙 Cotiau Glas, ond llwyth rhyfelgar oedd yr Apache ac mae Geronimo a Manuelito yn gwrthdaro llawer oherwydd hyn. Mae Chico yn gwrthdaro 芒 Manuelito, ei dad-yng-nghyfraith oherwydd ei fod yn credu nad ydy鈥檙 Navaho 芒 digon o asgwrn cefn ac mae鈥檔 cytuno鈥檔 llwyr 芒鈥檌 lysdad Geronimo, bod yn rhaid ymladd.
Triongl gwrthdaro鈥檙 Cotiau Glas
Ar ben y triongl hwn mae鈥檙 Cadfridog Carleton ac yn y ddwy gornel ar y gwaelod mae Kit Carson a Victor Dicks.
Mae hwn yn driongl pwysig i鈥檞 gofio oherwydd mai Carleton ydy鈥檙 un sy鈥檔 rhoi gorchmynion i Carson a Dicks. Mae Carson yn anghytuno鈥檔 chwyrn 芒 phenderfyniadau a thactegau milwrol Carleton ac mae鈥檔 cas谩u Dicks 芒 chas perffaith. Mae Dicks yn credu mai Indiad ydy Carson yn y b么n ac mae Carleton yn defnyddio Dicks i wneud ei waith budr er mwyn difa鈥檙 Navaho a鈥檙 llwythau eraill. Mae Dicks yn mwynhau鈥檙 holl drais yn erbyn yr Indiaid.