Arddodiaid sy'n achosi treigladau meddal
Cofia fod treiglad meddal yn dilyn yr arddodiaid hyn:
- am, ar, at, gan, dros, drwy, wrth, dan, heb, hyd, i, o
Dyma enghreifftiau o frawddegau sydd 芒 mwy nag un treiglad meddal ynddynt:
- Es i i'r gwely am ddeg o'r gloch neithiwr gan obeithio cael noson o gwsg.
- Dw i ar bigau'r drain i wybod canlyniad yr arholiad.
- Danfonais i ebost at gyfaill yn s么n am lyfr gwych.
Mae treiglad meddal hefyd yn dilyn 'ei' gwrywaidd. Er enghraifft: Cafodd y dyn ei gyhuddo ar gam.
Ond treiglad llaes sy'n dilyn 'ei' benywaidd: Cafodd y wraig ei chyhuddo ar gam.
Cofia hefyd fod gair benywaidd, ee 'cath' yn treiglo'n feddal ar 么l y fannod 'y':
- y gath
- yr ardd
- y faneg
- y fenyw
- y ddafad
Ond nid yw ll a rh yn treiglo'n feddal ar 么l y fannod mewn enw benywaidd unigol, ee 'y llyfrgell', 'y rhaw'.
Ac nid yw gair gwrywaidd, ee 'ci' yn treiglo'n feddal ar 么l y fannod 'y': y ci, y dyn, y mwnci, y bwrdd.
Cofia nad yw geiriau lluosog yn treiglo ar 么l y fannod 'y' chwaith: y cariadon, y papurau, y gwragedd.
Question
Cywira'r gwallau yn y rhestr isod.
Anghywir | Cywir |
Y gardd | |
Y menyw | |
Y ddyn | |
Y lyfr | |
Y gi | |
Y draenen | |
Y fwrdd | |
Y gwraig | |
Y goed | |
Y gadeiriau |
Anghywir | Y gardd |
---|---|
Cywir |
Anghywir | Y menyw |
---|---|
Cywir |
Anghywir | Y ddyn |
---|---|
Cywir |
Anghywir | Y lyfr |
---|---|
Cywir |
Anghywir | Y gi |
---|---|
Cywir |
Anghywir | Y draenen |
---|---|
Cywir |
Anghywir | Y fwrdd |
---|---|
Cywir |
Anghywir | Y gwraig |
---|---|
Cywir |
Anghywir | Y goed |
---|---|
Cywir |
Anghywir | Y gadeiriau |
---|---|
Cywir |
Anghywir | Cywir |
Y gardd | Yr ardd |
Y menyw | Y fenyw |
Y ddyn | Y dyn |
Y lyfr | Y llyfr |
Y gi | Y ci |
Y draenen | Y ddraenen |
Y fwrdd | Y bwrdd |
Y gwraig | Y wraig |
Y goed | Y coed |
Y gadeiriau | Y cadeiriau |
Anghywir | Y gardd |
---|---|
Cywir | Yr ardd |
Anghywir | Y menyw |
---|---|
Cywir | Y fenyw |
Anghywir | Y ddyn |
---|---|
Cywir | Y dyn |
Anghywir | Y lyfr |
---|---|
Cywir | Y llyfr |
Anghywir | Y gi |
---|---|
Cywir | Y ci |
Anghywir | Y draenen |
---|---|
Cywir | Y ddraenen |
Anghywir | Y fwrdd |
---|---|
Cywir | Y bwrdd |
Anghywir | Y gwraig |
---|---|
Cywir | Y wraig |
Anghywir | Y goed |
---|---|
Cywir | Y coed |
Anghywir | Y gadeiriau |
---|---|
Cywir | Y cadeiriau |