Amserlenni tr锚n
Mae amserlenni tr锚n yn dangos faint o鈥檙 gloch bydd trenau鈥檔 cyrraedd ac yn gadael pob gorsaf. Galli di ddefnyddio amserlenni tr锚n i gyfrifo faint o amser bydd dy daith yn ei gymryd a phryd byddi di鈥檔 cyrraedd pen dy daith.
Wrth gynllunio taith 芒 stopiau a newidiadau efallai y bydd angen i ti weithio ymlaen o dy amser gadael neu weithio yn 么l o dy amser cyrraedd.
Bydd angen i ti fod yn gyfarwydd 芒鈥檙 cloc 12-awr a鈥檙 cloc 24-awr cyn dechrau.
Dyma rannau o ddwy amserlen tr锚n.
Caerdydd i Lundain
Llundain i Gaerdydd
Mae Si芒n yn byw yng Nghaerdydd ac mae ganddi gyfweliad am swydd yn Reading am 15:45. Mae hi eisiau cyrraedd deg munud cyn i鈥檙 cyfweliad ddechrau ac mae'n credu y bydd yn cymryd 25 munud iddi gerdded i鈥檙 swyddfa. Cyfrifa鈥檙 amser hwyraf mae hi鈥檔 gallu gadael gorsaf drenau Caerdydd Canolog.
I gyfrifo鈥檙 amser gadael, gweithia鈥檔 么l o amser y cyfweliad.
- Amser dechrau鈥檙 cyfweliad - 15:45
- Cyrraedd y cyfweliad (deg munud yn gynharach) - 15:35
- Gadael yr orsaf drenau (25 munud yn gynharach) - 15:10
- Mae trenau鈥檔 cyrraedd Reading am 13:31, 14:31, 15:31 a 16:31
- Bydd angen iddi gyrraedd am 14:31
- Gwnaeth y tr锚n sy鈥檔 cyrraedd Reading am 14:31 adael Caerdydd am 12:55
Question
Mae Stuart yn cyrraedd Aberd芒r am 12:15. Mae鈥檔 teithio ar y tr锚n nesaf i Bontypridd lle mae鈥檔 cyfarfod 芒 ffrind am un awr.
Yna mae鈥檔 dal y tr锚n nesaf i Gaerdydd Canolog ar gyfer cyfarfod. Awr a hanner yn ddiweddarach mae鈥檔 dychwelyd i Gaerdydd Canolog ac mae鈥檔 dal y tr锚n nesaf i Fanceinion.
Faint o鈥檙 gloch mae Stuart yn cyrraedd Manceinion?
I gyfrifo鈥檙 amser cyrraedd, gweithia ymlaen o 12.15 pan mae鈥檔 cyrraedd gorsaf Aberd芒r.
- Gadael Aberd芒r ar y tr锚n 12:22
- Cyrraedd Pontypridd am 12:52
- Yn barod i adael Pontypridd un awr yn ddiweddarach am 13:52
- Gadael Pontypridd ar y tr锚n 14:22 a chyrraedd Caerdydd am 14:54
- Yn barod i adael Caerdydd awr a hanner yn ddiweddarach am 16:24 ac yn dal y tr锚n 16:50
- Mae鈥檙 tr锚n 16:50 yn cyrraedd Manceinion am 20:15