Noson i鈥檞 Chofio - strwythur anllinellol
Nawr ystyria'r fersiwn hon o'r un stori gan ddefnyddio strwythur anllinellol.
Noson i鈥檞 Chofio
- Golygfa 1: Rhan gyntaf o fonolog emosiynol gan Lleucu. Mae'n s么n am ei heuogrwydd a sut y mae'n dyheu am newid pethau ond dydyn ni ddim yn gwybod beth mae wedi ei wneud eto. Mae'n ceisio cysgu.
- Golygfa 2: 么l-fflach: Golygfa鈥檙 ddamwain. Lleucu yn rhuthro allan o鈥檙 parti ac yn gyrru ei char. Mae hyn yn ailadrodd adeg y gwrthdrawiad, fel hunllef yn ailadrodd, yn nodi鈥檙 funud.
- Golygfa 3: Lleucu鈥檔 dihuno鈥檔 sydyn o鈥檌 hunllef. Mae鈥檔 esbonio ei fod yn wir ac yn dyheu am allu newid pethau. Ond mae hi wedi cael yr hyn roedd hi鈥檔 ei haeddu.
- Golygfa 4: Golygfa鈥檙 llys. Yr olygfa鈥檔 rhewi a ffrind Lleucu鈥檔 siarad yn uniongyrchol 芒鈥檙 gynulleidfa gan ddweud ei bod yn teimlo鈥檔 gyfrifol ac y dylai hi fod wedi atal Lleucu rhag gyrru鈥檙 car. Mae鈥檙 ddedfryd yn cael ei chyhoeddi.
- Golygfa 5: Monolog Lleucu am y bywydau y mae hi wedi鈥檜 difetha, gan gynnwys ei bywyd ei hun. Mae鈥檔 dymuno gallu mynd yn 么l i newid yr hyn a ddigwyddodd.
- Golygfa 6: Diwedd golygfa鈥檙 ddamwain. Rhywun yn galw ambiwlans a chlywn am farwolaeth y tad ac anafiadau鈥檙 mab.
- Golygfa 7: Monolog Lleucu. Mae鈥檔 dweud nad oedd hi erioed wedi bwriadu yfed a gyrru.
- Golygfa 8: Lleucu yn pasio ei phrawf gyrru ac yn dathlu.
- Golygfa 9: Lleucu yn ffraeo gyda鈥檌 chariad. Mae wedi meddwi ac yn dweud ei bod am yrru adref. Ei ffrindiau鈥檔 ceisio ei hatal ac yn dweud wrthi am fynd adref gyda nhw, ond mae鈥檔 mynd beth bynnag.
- Golygfa 10: Y gwrthdrawiad mewn cyfres o ddelweddau llonydd. SFX (effaith sain) drws carchar yn cau.
Dadansoddiad o'r golygfeydd
- Mae Golygfa 1 yn dechrau gyda diwedd y stori a monolog Lleucu. Mae鈥檙 dechneg hon o ddefnyddio siarad yn uniongyrchol yn golygu ein bod ni鈥檔 uniaethu 芒 Lleucu a鈥檌 gweithredoedd o鈥檙 dechrau. Rydym ni鈥檔 poeni mwy am y cymeriad o ganlyniad.
- Caiff 么l-fflach ei ddefnyddio yng Ngolygfa 2 sy鈥檔 dweud wrth y gynulleidfa am yr hyn sy鈥檔 digwydd i Lleucu. Mae鈥檙 monolog yng Ngolygfa 1 wedi paratoi鈥檙 gynulleidfa am yr olygfa hon yn effeithiol. Mae鈥檙 modd arddulliadol hunllefus y caiff y gwrthdrawiad ei gyfleu yn creu ymdeimlad o synhwyro ofn. Dyma hefyd uchafbwynt y ddrama ond fe ddaw yn gynt yn y stori y tro hwn.
- Mae Golygfa 3 yn torri鈥檙 monolog ac yn cadw cysylltiad rheolaidd 芒 Lleucu. Mae ei hedifeirwch hefyd yn ychwanegu at yr ymdeimlad o synhwyro ofn o Olygfa 2.
- Mae Golygfa 4 yn cyfrannu at y syniad craidd o gyfiawnder a moeswers y stori sef 鈥楶aid ag yfed a gyrru鈥. Mae defnyddio ffrindiau鈥檔 siarad yn uniongyrchol 芒鈥檙 gynulleidfa hefyd yn tynnu sylw at eu cyfrifoldeb nhw.
- Mae Golygfa 5 yn cadw鈥檙 cysylltiad 芒 Lleucu. Ar y pwynt hwn dydyn ni ddim yn gwybod beth ddigwyddodd yn y gwrthdrawiad. Caiff y stori ei datgelu fesul dipyn i gadw diddordeb y gynulleidfa.
- Mae Golygfa 6 yn datgelu mwy am ganlyniad trasig gweithredoedd Lleucu, sydd unwaith eto鈥檔 atgyfnerthu neges allweddol y ddrama.
- Mae monolog Golygfa 7 yn paratoi鈥檙 gyfres nesaf o 么l-fflachiadau ac yn datgelu mwy am Lleucu a sut mae鈥檔 teimlo.
- 脭l-fflachiadau ydy Golygfeydd 8 a 9 ond mae鈥檙 rhain mewn trefn linellol er mwyn adeiladu tyndra a chyflymder. Ceir eironi dramatigPan fydd y gynulleidfa/darllenydd yn gwybod rhywbeth pwysig nad ydy'r cymeriad yn ei wybod. gan ein bod yn gwybod y canlyniad felly rydym ni鈥檔 gallu gweld y camgymeriadau mae hi鈥檔 eu gwneud. Y golygfeydd hyn yw dechrau a chanol y stori.
- 脭l-fflach yw Golygfa 10 eto at y gwrthdrawiad rydyn ni wedi ei weld eisoes felly mae hyn yn dangos defnydd effeithiol o ailadrodd sy鈥檔 atgyfnerthuAiladrodd rhywbeth er mwyn creu effaith neu bwyslais. erchylltra鈥檙 stori unwaith eto. Mae cyflwyno鈥檙 gwrthdrawiad fel delwedd lonydd yn atgyfnerthu鈥檙 syniad na fydd y delweddau hyn byth yn pylu. Fel mewn hunllef, mae鈥檙 delweddau鈥檔 ddigyswllt. Mae hyn hefyd yn gyferbyniad dramatig 芒鈥檙 ffordd mae鈥檔 adeiladu鈥檔 llinellol yng Ngolygfeydd 8 a 9.