大象传媒

Effaith mydr ac odl

Mae Walkers鈥 Wood yn gerdd arall sydd ar fydr ac odl. Y tro hwn, sylwa fod naw sillaf yn y llinell gyntaf a deg sillaf ymhob llinell arall. Mae gan gerdd Myrddin ap Dafydd strwythur pendant sef cyfres o benillion pedair llinell yr un.

Edrycha ar y dyfyniad isod:

Diagram i arddangos odl.
  • Mae patrwm odli amlwg ar ddiwedd llinellau鈥檙 gerdd hon. Mae llinellau dau a phedwar yn odli ac mae鈥檙 cwpledi i gyd yn dilyn yr un rhythm.
DyfyniadEffaith
鈥極es 'na enw ar y coed 鈥榤a, Dad? / - I mi gael dweud y stori fawr wrth Taid.鈥 / 鈥楥oed Llugwy ydi鈥檙 enw arnynt, was, / Ond Walkers鈥 Wood sydd yn y Betws Guide.鈥 Sgwrs a geir yma rhwng tad a mab. Mae rhythm y llinellau yn ychwanegu at arddull sgyrsiol y gerdd.
Dyfyniad鈥極es 'na enw ar y coed 鈥榤a, Dad? / - I mi gael dweud y stori fawr wrth Taid.鈥 / 鈥楥oed Llugwy ydi鈥檙 enw arnynt, was, / Ond Walkers鈥 Wood sydd yn y Betws Guide.鈥
EffaithSgwrs a geir yma rhwng tad a mab. Mae rhythm y llinellau yn ychwanegu at arddull sgyrsiol y gerdd.

Galli di weld o'r tair enghraifft sydd wedi eu cyflwyno yn y canllaw hwn fod y mesur mydr ac odl yn rhoi rhyddid i'r bardd wneud defnydd da ohono. Trwy ei ddefnyddio fel nodwedd arddull gall y bardd ddefnyddio rhythmau a phatrymau odli i'w fantais. Mae amrywio strwythur y gerdd, hynny yw hyd y llinellau, patrwm yr odl a nifer y sillafau yn ychwanegu at yr effaith mae'r bardd eisiau ei chael ar y darllenydd, ac yn helpu i drosglwyddo ei neges.