大象传媒

Cerdd benrhydd

Mae cerddi penrhydd yn hawdd eu hadnabod am nad oes strwythur pendant iddyn nhw. Nid oes trefn arbennig i鈥檙 sillafau, yr odl, y llinellau na鈥檙 penillion mewn cerdd benrydd. Mae hawl gan y bardd i lunio鈥檙 gerdd fel y dymuna. Gall y bardd ei gosod ym mha bynnag ffordd yr hoffai hefyd.

Edrycha ar y dyfyniad o鈥檙 gerdd benrhydd Gail Fu Farw gan Nesta Wyn Jones:

Dyfyniad o'r gerdd 'Gail fu farw' gan Nesta Wyn Jones.
  • Nid oes strwythur pendant i linellau鈥檙 gerdd - sylwa eu bod yn amrywio mewn hyd.
  • Nid oes patrwm odli na sillafau yn y llinellau.
  • Nid oes rhythm neu fydr penodol i鈥檙 llinellau na鈥檙 penillion.

Weithiau gall y mesur penrhydd fod yn ddewis addas i gyfleu pwnc y gerdd. Yn y gerdd hon, mae鈥檙 amrywiaeth yn hyd y brawddegau yn adlewyrchu鈥檙 diffyg trefn ym mywyd Gail, gwrthrych y gerdd.