大象传媒

Naturiolaeth a StanislavskiRealaeth yn y theatr

Mae syniadau Konstantin Stanislavski, yr ymarferwr Rwsiaidd, yn ddylanwadol iawn. Roedd e'n credu mewn perfformiadau naturiolaidd sydd mor realistig 芒 phosib. Galli di ddefnyddio ei dechnegau hefyd.

Part of DramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Realaeth yn y theatr

Beth sy'n gwneud cynhyrchiad realistig? Mae'n anodd dod o hyd i rys谩it ond ceir nifer o elfennau pwysig y gallet ti ddisgwyl eu gweld:

  • Y bedwaredd wal. Bydd set cynhyrchiad realistig yn dri dimensiwn, a bydd yn cael ei berfformio mewn theatr gan amlaf, sy'n cryfhau'r ymdeimlad hwnnw o'r . Mae'r perfformwyr yn cyflwyno'r ddrama'n realistig, heb ddefnyddio technegau megis siarad 芒'r gynulleidfa neu , sydd ar unwaith yn dryllio unrhyw ddelwedd o fywyd go iawn ar y llwyfan.
Darlun o lwyfan syml mewn bocs esgidiau, gyda "Y bedwaredd wal" wedi ei labelu
  • Sgyrsiau a dull siarad bob dydd. Byddai drama realistig yn defnyddio rhyddiaith yn hytrach na barddoniaeth a byddai'n defnyddio iaith arferol yn hytrach na geirfa emosiynol ddwfn.
  • Pobl gyffredin. Yn gyffredinol, mae'r straeon yn ymwneud 芒 phobl y gallwn ni eu diffinio fel dosbarth canol neu ddosbarth gweithiol. I Stanislavski, y dosbarth canol, neu i ddefnyddio'r term cywir yn Rwsia ei gyfnod, , oedd y bobl y byddai'n eu gosod ar y llwyfan ar y cyfan.
  • Arddull actio wedi ei ymarfer yn ofalus sy'n creu neu sy'n cadarnhau'r argraff o realaeth. Mae hyn yn wir pa bynnag agwedd a gaiff ei mabwysiadu.
  • Portread o fywyd go iawn sydd wedi ei ddethol yn ofalus a'i grisialu ond sy'n dal i fod yn effeithiol yn theatrig.
  • Lleoliadau go iawn. Mae鈥檙 dram芒u hyn yn cael eu gosod mewn cyd-destunau realistig. Ni fydd ganddyn nhw leoliadau hudol neu ffantasi ac maen nhw'n debygol o fod yn gyfoes. Daw amser pan na fydd drama o'r fath, un gan Chekhov er enghraifft, bellach yn gyfoes. Yna penderfyniad y cyfarwyddwr ydy sut i fynd ymlaen 芒'r gwaith. Ond mae mwyafrif y cynyrchiadau o waith Chekhov yn cael eu gosod yn eu cyfnod gwreiddiol gyda chymaint o wirionedd realistig yn y cynhyrchiad 芒 phosib.

Related links