Technegau Stanislavski
Y System
Mae'r term hwn yn cyfeirio at y dulliau y byddai Stanislavski yn eu defnyddio i feithrin perfformiad da yn ei actorion. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar helpu actor i adalw'r emosiynau sydd eu hangen ar gyfer rhan. Paid 芒 drysu 'actio method' gyda'r System. Actio method ydy sut roedd gwaith Stanislavski鈥檔 cael ei ddehongli gan eraill, yn benodol actorion a chyfarwyddwyr yn y diwydiant ffilm.
Amgylchiadau gwybyddus
Dyma'r wybodaeth am y cymeriad sydd gen ti ar y dechrau a'r ddrama gyflawn. Beth ydy oed y cymeriad? Beth ydy ei sefyllfa yn y ddrama ac mewn perthynas 芒 chymeriadau eraill? Oes unrhyw nodiadau ar gael am y ddrama a'i chymeriadau? Efallai na fydd nodiadau a chyfarwyddiadau llwyfan o'r fath yn dweud popeth sydd ei angen arnat ti i ddatblygu cymeriad ond maen nhw'n fan cychwyn i ti ymchwilio i'r cwestiynau eraill.
Cof emosiynol
Cof emosiynol ydy pan fydd yr actor yn dod o hyd i brofiad gwirioneddol yn y gorffennol lle y teimlodd emosiwn tebyg i'r hyn sydd ei angen ar y rhan mae'n ei chwarae. Yna mae'n 'benthyg' y teimladau hynny i ddod 芒'r rhan yn fyw.