Stanislavski heddiw
Nid nod Stanislavski oedd creu cod actio anhyblyg a chadarn. Gellid dweud ei fod yn dyfeisio llawlyfr yn hytrach na siaced gaeth. Mae ei waith wedi bod yn hynod o ddylanwadol oherwydd dydy ymarferwr newydd ddim yn teimlo ei fod yn cael ei gyfyngu ond yn hytrach yn cael ei ysbrydoli i adeiladu ar y gwaith. Mae Canolfan Stanislavski yng Ngholeg Theatr a Pherfformio Rose Bruford yn gartref i ymchwil academaidd a digwyddiadau ymarfer a pherfformio yn seiliedig ar ei waith.
Roedd Lee Strasberg, a oedd yn actor, yn gyfarwyddwr ac yn athro actio adnabyddus o UDA, yn defnyddio dysgeidiaeth Stanislavski yn llwyddiannus iawn yn yr Actors Studio yn Efrog Newydd o'r 1950au tan iddo farw ym 1982. Roedd Strasberg yn adnabyddus fel cr毛wr 鈥榓ctio method' a ysbrydolwyd gan 'system' Stanislavski. Hyfforddodd Strasberg sawl cenhedlaeth o dalentau mwyaf enwog y theatr a ffilmiau megis Marlon Brando, James Dean, Marilyn Monroe, Paul Newman, Robert De Niro ac Al Pacino.
Mae holl ymarferion Stanislavski'n arwain at ddefnyddio cof affeithiol, sef cof synnwyr ac emosiwn, sy'n caniat谩u i'r actor brofi'r hyn roedd Stanislavski'n ei ddisgrifio fel perezhivanieModd i actorion i greu cymeriadau drwy ail-fyw profiadau personol yr actor neu鈥檙 actores. neu ailbrofi. Yr elfen hon o ailbrofi, drwy ddefnyddio cof affeithiol, ydy ffynhonnell actio gwirioneddol a'r hyn ddaeth yn brif nodwedd Method Strasberg. Mae actorion yn dal i ddefnyddio'r dechneg hon heddiw.