Mae trydan domestig yn archwilio cylchedau trydanol a'r dyfeisiau diogelwch o gwmpas y cartref, fel ffiwsiau a thorwyr cylchedau, cylch y brif gylched a swyddogaethau'r gwifrau byw, niwtral a daear.
Yr enw am cerryntLlif o wefrau, er enghraifft, electronau sy鈥檔 symud drwy wifren fetel. sy鈥檔 newid cyfeiriad yn gyson yw cerrynt eiledol, neu c.e. Mae trydan o鈥檙 prif gyflenwad yn gyflenwad c.e. Mae prif gyflenwad trydan y Deyrnas Unedig tua 230 V. Amledd y prif gyflenwad ydy 50 Hz, sy鈥檔 golygu ei fod yn newid cyfeiriad ac yn 么l eto 50 gwaith yr eiliad. Mae鈥檙 diagram yn dangos sgrin osgilosgopDyfais sy鈥檔 cael ei defnyddio i fesur ac arsylwi ar signalau trydanol dros amser. sy鈥檔 arddangos y signal o gyflenwad c.e.
Cerrynt union (c.u.)
Yr enw am gerrynt sy鈥檔 llifo mewn un cyfeiriad yn unig yw cerrynt union, neu c.u. Mae batr茂au a chelloedd solar yn cyflenwi trydan c.u. Gall batri cyffredin gyflenwi 1.5 V. Mae鈥檙 diagram yn dangos sgrin osgilosgop sy鈥檔 arddangos y signal o gyflenwad c.u.