大象传媒

Trydan domestigFfiwsiau a thorwyr cylchedau

Mae trydan domestig yn archwilio cylchedau trydanol a'r dyfeisiau diogelwch o gwmpas y cartref, fel ffiwsiau a thorwyr cylchedau, cylch y brif gylched a swyddogaethau'r gwifrau byw, niwtral a daear.

Part of FfisegTrydan, egni a thonnau

Ffiwsiau a thorwyr cylchedau

Mae ffiwsiau a thorwyr cylchedau yn diogelu cylchedau a dyfeisiau trydanol.

Ffiwsiau

Pwrpas ffiws ydy torri鈥檙 gylched os bydd nam mewn dyfais yn gwneud i ormod o gerrynt lifo. Mae hyn yn diogelu鈥檙 gwifrau a鈥檙 ddyfais os bydd nam yn digwydd. Mae鈥檙 ffiws yn cynnwys darn o fetel sy鈥檔 toddi鈥檔 hawdd. Os yw鈥檙 cerrynt sy鈥檔 mynd drwy鈥檙 ffiws yn rhy fawr, bydd y wifren yn poethi hyd nes iddi doddi a thorri鈥檙 gylched.

Diagram yn dangos ffiws 13 amp sy'n dangos y wifren tu mewn iddo.
Figure caption,
Mae ffiws 13 A yn cynnwys gwifren ag ymdoddbwynt isel

Mae鈥檙 ffiwsiau sydd mewn plygiau wedi cael eu graddio ar gyfer gwerthoedd safonol. Y cyfraddiadau mwyaf cyffredin ydy 3 A, 5 A a 13 A. Dylet ti ddefnyddio ffiws sydd wedi鈥檌 raddio ar gyfer cludo cerrynt ychydig yn uwch na鈥檙 hyn sydd ei angen ar y ddyfais:

  • os yw鈥檙 ddyfais yn gweithio ar 3 A, defnyddia ffiws 5 A
  • os yw鈥檙 ddyfais yn gweithio ar 10 A, defnyddia ffiws 13 A

Cyfrifo gwerth y ffiws sydd ei angen

Mae modd ad-drefnu鈥檙 hafaliad P = I 脳 V i ganfod y cerrynt os wyt ti鈥檔 gwybod gwerth y p诺er a鈥檙 foltedd.

I = P 梅 V

Er enghraifft, pa gerrynt sy鈥檔 llifo drwy d芒n trydan 1.4 kW ar o 230 V? Cofia fod 1.4 kW yn hafal i 1,400 W.

Cerrynt = 1,400 梅 230 = 6 A

Y ffiws gorau i鈥檞 ddefnyddio yn yr enghraifft hon yw鈥檙 ffiws 13 A. Byddai鈥檙 ffiwsiau 3 A a 5 A yn chwythu hyd yn oed pan fyddai鈥檙 t芒n yn gweithio fel arfer.

Torwyr cylchedau

Circuit breakers in a row with white cases and black switches
Image caption,
Mae torwyr cylchedau yn gweithredu fel ffiwsiau y gellir eu hailosod

Switshis trydanol awtomatig sy鈥檔 diogelu cylchedau trydanol rhag gorlwytho neu droi yn gylchedau byr ydy torwyr cylchedau. Maen nhw鈥檔 canfod namau ac yn atal llif y trydan. Mae torwyr cylchedau bach yn diogelu dyfeisiau t欧 unigol, tra bod torwyr cylchedau mawr yn gallu diogelu cylchedau foltedd uchel sy鈥檔 cyflenwi trydan i ddinasoedd cyfan.

Torrwr cylched bychan

Mae torrwr cylched bychan yn ailosod ac yn defnyddio electromagnet i agor switsh os yw鈥檙 cerrynt yn mynd dros werth penodol. Mae torrwr cylched bychan yn diffodd y cerrynt yn gyflymach na ffiws.

Torrwr cylched gweddilliol

Mae torrwr cylched gweddillol yn diffodd y gylched os oes gwahaniaeth rhwng y ceryntau yng ngwifrau byw a niwtral y ddyfais. Mae torrwr cylched gweddilliol yn fwy sensitif na thorrwr cylched bychan.