Y prif newidiadau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur, 1945-50
Roedd y Llywodraeth Lafur wedi cyflwyno newidiadau er mwyn ceisio creu cymdeithas decach.
Deddf Addysg 1944
Roedd y Ddeddf hon yn nodi mai 15 oedd oedran gadael ysgol a chyflwynwyd ysgolion uwchradd am ddim. Roedd disgyblion yn sefyll prawf IQ yr 鈥11-plus鈥 i benderfynu a oedden nhw鈥檔 mynd i ysgol ramadeg, i ysgol uwchradd fodern neu i ysgol dechnegol, felly roedd dewis ysgol yn seiliedig ar allu, nid incwm rhieni.
Deddf Lwfans Teulu 1945
Rhoddwyd 5 swllt (gwerth 拢7.54 heddiw) yr wythnos am bob plentyn ar 么l y cyntaf-anedig er mwyn helpu i dalu am ychydig o鈥檙 costau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 magu plant, ee dillad, bwyd.
Deddf Yswiriant Gwladol 1946
T芒l diweithdra am chwe mis a th芒l salwch am ba hyd bynnag yr oedd rhywun yn s芒l. Budd-dal mamolaeth. Grantiau marwolaeth i helpu tuag at gostau angladd. Pensiynau henoed yn 65 oed i ddynion a 60 i ferched.
Deddf Anafiadau Diwydiannol 1946
Budd-daliadau ychwanegol i bobl oedd yn cael eu hanafu yn y gwaith.
Deddf Trefi Newydd 1946
Roedd hon yn awdurdodi adeiladu trefi newydd megis Stevenage, Basildon, Newton Wycliffe a Peterlee.
Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1946
Daeth Deddf GIG Aneurin Bevan i rym ar 5 Gorffennaf 1948. Roedd meddygon, ysbytai, deintyddion, optegwyr, ambiwlansys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd ar gael am ddim i bawb.
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947
Roedd y Ddeddf hon wedi pennu targed o adeiladu 300,000 o dai newydd bob blwyddyn. Adeiladwyd 1.25 miliwn o dai cyngor rhwng 1945 a 1951. Roedd hefyd yn diffinio tir gwyrdd oedd yn rhaid ei gadw鈥檔 wledig.
Deddf Plant 1948
Roedd hon yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau ddarparu tai da a gofal i鈥檙 holl blant oedd wedi eu 'hamddifadu o fywyd cartref normal'.
Drwy fabwysiadu鈥檙 syniadau yn llyfr yr economegydd J M Keynes, General Theory of Employment, Interest, and Money (1936), fe ddysgodd y Llywodraeth sut oedd cadw鈥檙 economi鈥檔 fyw drwy gynyddu gwariant cyhoeddus.