大象传媒

Ailadeiladu'r wlad ar 么l 1945Cyfleoedd addysgol i bob plentyn

Roedd y Llywodraeth Lafur ar 么l y rhyfel yn 1945 yn benderfynol o gyflwyno newidiadau allweddol fyddai鈥檔 gwella bywydau pobl a sefydlu wladwriaeth les. Sut wnaeth y Llywodraeth Lafur ddelio 芒 phroblemau鈥檙 oes?

Part of HanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Cyfleoedd addysgol i bob plentyn

Roedd Deddf Addysg 1944 wedi nodi mai 15 oedd oedran gadael ysgol a chyflwynodd ysgolion uwchradd am ddim. Roedd addysg nawr yn cael ei gynnig i bob plentyn o bob cefndir, yn hytrach na dim ond i鈥檙 rhai allai ei fforddio.

Yn ystod blwyddyn olaf ysgol gynradd, roedd plant yn sefyll arholiad o鈥檙 enw yr 鈥11-plus鈥. Roedd canlyniad yr arholiad hwn, a oedd yn debyg i brawf IQ, yn pennu i ba ysgol byddai鈥檙 plant yn mynd iddi:

  • ysgolion gramadeg i ddisgyblion academaidd
  • ysgolion uwchradd modern ar gyfer dysgu pynciau ymarferol
  • ysgolion technegol ar gyfer dysgu sgiliau ymarferol

Nid oedd y strategaeth hon yn berffaith oherwydd byddai鈥檙 disgyblion oedd yn mynychu ysgolion gramadeg yn fwy tebygol o fynd i brifysgol yn ddiweddarach. Roedd sefyll prawf mor dyngedfennol mor ifanc yn her i nifer o ddisgyblion. Roedd gan ysgolion gramadeg well adnoddau, athrawon mwy medrus, ac roedden nhw鈥檔 fwy academaidd na鈥檙 ddau fath arall o ysgolion.

Neuadd ysgol fawr a disgyblion mewn dillad ysgol yn eistedd ar resi o gadeiriau.
Image caption,
Disgyblion yn dod ynghyd am weddi foreol yn Ysgol Ramadeg Manceinion, 1950