大象传媒

Titradu a chyfrifiadauCyfrifo molau mewn hydoddiannau: Haen Uwch - Cemeg

Rydyn ni鈥檔 defnyddio dull titradu i baratoi halwynau os yw鈥檙 adweithyddion yn hydawdd. Gallwn ni ddefnyddio titradiadau i gyfrifo crynodiad a chyfaint adweithyddion.

Part of CemegAsidau, basau a halwynau

Cyfrifo molau mewn hydoddiannau [Haen uwch - Cemeg yn unig]

Cyfrifiadau crynodiad

Galli di gyfrifo maint sylwedd mewn mewn hydoddiant os wyt ti鈥檔 gwybod y cyfaint a鈥檙 crynodiad. Galli di hefyd gyfrifo crynodiad asid sy鈥檔 adweithio ag alcali, neu i鈥檙 gwrthwyneb.

Mae鈥檙 hafaliad hwn yn cysylltu crynodiad, swm o a chyfaint :

Crynodiad mewn mol/dm3 = swm mewn mol 梅 cyfaint mewn dm3

Gallwn ni ad-drefnu鈥檙 hafaliad hwn i ganfod swm o hydoddyn neu gyfaint hydoddiant.

Mae angen rhannu cyfaint mewn cm3 芒 1,000 i鈥檞 drawsnewid yn gyfaint mewn dm3.

Triongl cyfrifo ag 'n (mol)' yn y rhan uchaf a 'crynodiad (mol/dm3)' a 'cyfaint (dm3)' yn y gwaelod.

Cyfrifo crynodiad

Question

Mae 0.5 mol o hydoddyn wedi鈥檌 hydoddi mewn 250 cm3 o hydoddiant. Cyfrifa ei grynodiad.

Cyfrifo swm o hydoddyn

Ad-drefnu鈥檙 hafaliad: swm = crynodiad 脳 cyfaint

Question

Cyfrifa swm yr hydoddyn sydd wedi hydoddi mewn 2 dm3 o hydoddiant 0.1 mol/dm3.

Cyfrifo cyfaint

Ad-drefnu鈥檙 hafaliad: cyfaint = swm 梅 crynodiad

Question

Cyfrifa gyfaint hydoddiant 2 mol/dm3 sy鈥檔 cynnwys 0.5 mol o hydoddyn.

Gallwn ni hefyd fynegi crynodiadau mewn gramau y decimetr ciwb (g/dm3). I drawsnewid rhwng y ddwy uned crynodiad, mae angen defnyddio鈥檙 m脿s fformiwla cymharol (Mr).

Lluosi 芒 Mr i drawsnewid mol/dm3 yn g/dm3. Rhannu 芒 Mr i drawsnewid g/dm3 yn mol/dm3.