大象传媒

Titradu a chyfrifiadauCyfrifiadau titradu [Haen uwch yn unig]

Rydyn ni鈥檔 defnyddio dull titradu i baratoi halwynau os yw鈥檙 adweithyddion yn hydawdd. Gallwn ni ddefnyddio titradiadau i gyfrifo crynodiad a chyfaint adweithyddion.

Part of CemegAsidau, basau a halwynau

Cyfrifiadau titradu [Haen uwch yn unig]

Mae disgwyl i ti ddefnyddio data titradu i gyfrifo naill ai crynodiad neu gyfaint hydoddiant. Bydd y cwestiynau hyn i gyd yn rhoi crynodiad a chyfaint un o鈥檙 hydoddiannau (er mwyn i ti allu cyfrifo nifer y molau) yn ogystal 芒 hafaliad symbolau cytbwys yr adwaith. Dyma rai enghreifftiau.

Cyfrifiadau crynodiad

Bydd y math hwn o gwestiwn yn rhoi gwybodaeth i ti ac yn gofyn i ti gyfrifo crynodiad un o鈥檙 hydoddiannau. Dyma enghraifft.

Mae 50.00 cm3 o HNO3 dyfrllyd yn cael ei niwtraleiddio gan 25.00 cm3 o hydoddiant bariwm hydrocsid 0.2 mol/dm3. Cyfrifa grynodiad yr asid nitrig.

Ba(OH)2 + 2HNO3 鈫 Ba(NO3)2 + 2H2O

1. Rydyn ni wedi cael crynodiad a chyfaint yr hydoddiant bariwm hydrocsid, felly gallwn ni gyfrifo nifer y molau o鈥檙 bariwm hydrocsid (cofia: 25.00 cm3 = 0.025dm3).

Mol(Ba(OH)2) = 0.025 脳 0.2 = 0.005 mol

2. Nawr, rydyn ni鈥檔 edrych ar yr hafaliad cytbwys i ganfod nifer y molau o鈥檙 asid nitrig.

Mol(HNO3) = 2 脳 Mol(Ba(OH)2) = 2 脳 0.005 = 0.01mol

3. Nawr bod gennyn ni nifer y molau o asid sylffwrig, rydyn ni鈥檔 defnyddio鈥檙 molau a鈥檙 cyfaint i gyfrifo鈥檙 crynodiad (cofia: 50.00 cm3 = 0.05dm3).

Crynodiad (HNO3) = 0.01 梅 0.05 = 0.2 mol/dm3

Cyfrifiadau cyfaint

Bydd y math hwn o gwestiwn yn rhoi gwybodaeth i ti ac yn gofyn i ti gyfrifo cyfaint un o鈥檙 hydoddiannau. Dyma enghraifft.

Cyfrifa gyfaint yr H2SO4 0.5 mol/dm3 sydd ei angen i adweithio鈥檔 union 芒 20.00 cm3 o hydoddiant KOH 2 mol/dm3.

H2SO4 + 2KOH 鈫 K2SO4+ 2H2O

1. Rydyn ni wedi cael crynodiad a chyfaint yr hydoddiant potasiwm hydrocsid, felly gallwn ni gyfrifo nifer y molau o鈥檙 potasiwm hydrocsid (cofia: 20.00 cm3 = 0.02dm3).

Mol(KOH) = 0.02 脳 2 = 0.04 mol

2. Nawr, rydyn ni鈥檔 edrych ar yr hafaliad cytbwys i ganfod nifer y molau o鈥檙 asid sylffwrig.

Mol(H2SO4) = 0.5 脳 Mol(KOH) = 0.5 脳 0.04 = 0.02mol

3. Nawr bod gennyn ni nifer y molau o asid sylffwrig, rydyn ni鈥檔 defnyddio鈥檙 molau a鈥檙 crynodiad i gyfrifo鈥檙 cyfaint.

Cyfaint (H2SO4) = 0.02 梅 0.5 = 0.04 dm3 (40 cm3)