Isotopau a'u hanner oes
Dyma restr o isotopau a'u hanner oes sy'n gyffredin mewn arholiadau TGAU.
Enw'r isotop | Hanner oes |
Thoriwm-232 | 14,000 miliwn o flynyddoedd |
Wraniwm-235 | 704 miliwn o flynyddoedd |
Plwtoniwm-239 | 24,110 mlynedd |
Carbon-14 | 5,730 mlynedd |
Cesiwm-137 | 30 mlynedd |
Cobalt-60 | 5.27 mlynedd |
Poloniwm-210 | 138 diwrnod |
Tecnetiwm-99m | 6 awr |
Poloniwm-218 | 3 munud |
Enw'r isotop | Thoriwm-232 |
---|---|
Hanner oes | 14,000 miliwn o flynyddoedd |
Enw'r isotop | Wraniwm-235 |
---|---|
Hanner oes | 704 miliwn o flynyddoedd |
Enw'r isotop | Plwtoniwm-239 |
---|---|
Hanner oes | 24,110 mlynedd |
Enw'r isotop | Carbon-14 |
---|---|
Hanner oes | 5,730 mlynedd |
Enw'r isotop | Cesiwm-137 |
---|---|
Hanner oes | 30 mlynedd |
Enw'r isotop | Cobalt-60 |
---|---|
Hanner oes | 5.27 mlynedd |
Enw'r isotop | Poloniwm-210 |
---|---|
Hanner oes | 138 diwrnod |
Enw'r isotop | Tecnetiwm-99m |
---|---|
Hanner oes | 6 awr |
Enw'r isotop | Poloniwm-218 |
---|---|
Hanner oes | 3 munud |
Enghraifft
Bob 5.27 mlynedd, mae 尘脿蝉 cobalt-60 yn haneru. Mae nifer yr atomau cobalt-60 yn haneru. Mae actifedd cobalt-60 yn haneru.
Bob 5,730 mlynedd, mae 尘脿蝉 carbon-14 yn haneru. Mae nifer yr atomau carbon-14 yn haneru. Mae actifedd carbon-14 yn haneru.
Os oes gan isotop hanner oes o 6 diwrnod, ar 么l 6 diwrnod bydd nifer y niwclysau gwreiddiol yn haneru, bydd actifedd yr isotop yn haneru a bydd ei f脿s yn haneru.
Question
Mae hanner oes isotop ymbelydrol yn 27 mlynedd. Pa mor hir fydd ei f脿s yn ei gymryd i leihau o 2 g i 0.25 g?
2 g 鈫 1 g 鈫 0.5 g 鈫 0.25 g. Mae'r tair saeth yn cynrychioli tri hanner oes. 3 脳 27 mlynedd = 81 mlynedd.
Question
Mae actifedd isotop yn lleihau o 600 Bq (becquerel) i 150 Bq mewn deg diwrnod. Beth yw ei hanner oes?
600 Bq 鈫 300 Bq 鈫 150 Bq. Mae'r ddwy saeth yn cynrychioli dau hanner oes. Os yw dau hanner oes yn ddeg diwrnod, mae un hanner oes yn bump diwrnod.
Question
Mae gan isotop hanner oes o 30 mlynedd. Amcangyfrifa pa mor hir mae鈥檔 ei gymryd i nifer y niwclysau ddadfeilio i lai na 200 os yw'r nifer cychwynnol yn 8,000.
8,000 鈫 4,000 鈫 2,000 鈫 1,000 鈫 500 鈫 250 鈫 125. Mae'n cymryd pump hanner oes i syrthio i 250 o niwclysau, a chwech hanner oes i gyrraedd 125 o niwclysau. Felly rhywle rhwng 5 脳 30 = 150 mlynedd a 6 脳 30 = 180 mlynedd.