大象传媒

Hafaliadau cydamserolDatrys hafaliadau cydamserol: defnyddio graffiau

Mae p芒r o hafaliadau lle mae angen canfod mwy nag un gwerth yn cael eu galw'n 鈥榟afaliadau cydamserol鈥. Mae sawl dull y gelli di ei ddefnyddio i鈥檞 datrys.

Part of MathemategHafaliadau

Datrys hafaliadau cydamserol drwy ddefnyddio graffiau

Yn ogystal 芒 datrys hafaliadau cydamserol drwy ddefnyddio algebra, gelli di eu datrys drwy eu had-drefnu ar ffurf \({y} = {mx}+{c}\) fel bod modd eu plotio fel graffiau llinell syth. Pan fyddi di wedi plotio鈥檙 graffiau, gelli di ganfod gwerthoedd \({x}\) ac \({y}\) sy鈥檔 datrys yr hafaliadau.

Enghraifft

Defnyddia鈥檙 dull graffigol i ddatrys yr hafaliadau cydamserol:

\({y} = {2x}\)

\({2x} + {y} = {8}\)

Dechreua drwy ad-drefnu鈥檙 ddau hafaliad i鈥檞 cael ar ffurf:

\({y} = {mx} + {c}\)

Yn yr achos hwn, dim ond yr ail hafaliad sydd angen ei ad-drefnu. Dyma鈥檙 ddau hafaliad bellach:

\({y} = {2x}\)

\({y} = {-2x} + {8}\)

Nawr, mae gyda ni ddau hafaliad ar gyfer graffiau llinell syth y gallwn ni eu plotio.

Pan wnawn ni hyn gallwn ni edrych i weld ble mae鈥檙 ddwy linell yn croesi (y pwynt croestoriad). Gwerthoedd \({x}\) ac \({y}\) ar y pwynt hwn ydy atebion yr hafaliadau cydamserol.

Graff yn dangos anhafaleddau a hafaliadau cydamserol

Yr ateb i鈥檙 p芒r hwn o hafaliadau cydamserol ydy \({x} = {2}\) ac \({y} = {4}\).

More guides on this topic