大象传媒

Rhifau positif a negatifAdio a thynnu rhifau positif a negatif

Gelwir rhifau o dan sero yn rhifau negatif. Gelwir rhifau uwchben sero鈥檔 rhifau cyfan. Mae rheolau y gelli di eu defnyddio wrth adio, tynnu, lluosi neu rannu rhifau positif a negatif.

Part of MathemategRhifau positif a negatif

Adio a thynnu rhifau positif a negatif

I adio a thynnu rhifau dylet ti ddechrau cyfrif o sero bob amser.

Wrth drafod rhifau positif, mae angen cyfrif i鈥檙 dde.

Wrth drafod rhifau negatif, mae angen cyfrif i鈥檙 chwith.

Defnyddio llinell rif

Llinell rif yn dangos rhifau negatif a phositif

Cyfrifa \({4}-{5}-{3}\)

Dychmyga symud i fyny ac i lawr llinell rif i gyrraedd yr ateb.

Gan ddechrau o sero, mae angen cyfrif i fyny i \({4}\), wedyn tynnu \({5}\), wedyn tynnu \({3}\). Yr ateb ydy \({-4}\).

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 4, Diagram yn egluro rhannu 芒 1000, Cyfrifo ar linell rif Cyfrifa: 4 - 5 - 3

Question

Cyfrifa \({-2}+{9}-{10}+{6}\)

Dau arwydd

Wrth adio neu dynnu rhifau negatif, cofia pan fydd dau arwydd yn ymddangos nesaf at ei gilydd a bod y ddau鈥檔 wahanol, yna mae angen tynnu. Pan fydd dau arwydd nesaf at ei gilydd a bod y ddau yr un fath, mae angen adio:

Adio a thynnu rhifau negatif a phositif

Question

Cyfrifa

a) \({10}+{-7}\)

b) \({4}-{-3}\)