Ysgrifennu rhagdybiaethau
Yn yr arholiad ymarferol, efallai bydd gofyn i ti greu rhagdybiaeth a defnyddio dull arbrofol penodol i gael canlyniadau.
Mae gwyddonwyr yn defnyddio rhagdybiaethau i esbonio pethau maen nhw'n eu harsylwi. Gellir profi rhagdybiaethau i gadarnhau a yw newidyn yn effeithio ar newidyn arall ai peidio, a beth yw'r berthynas rhwng y newidynnau.
Rhagdybiaeth mewn gwaith ymarferol yw rhagfynegiad, gydag esboniad i'w atgyfnerthu. Efallai bydd yr esboniad yn defnyddio gwybodaeth neu dystiolaeth wyddonol flaenorol.
Efallai bydd rhaid i ti awgrymu rhagdybiaeth y gellir ei phrofi ar gyfer dy asesiad ymarferol. Dyma dair enghraifft o ragfynegiadau ar gyfer ymestyn sbring. Mae A yn rhagfynegiad syml. Mae gan ddatganiad B ychydig mwy o fanylion. Mae C yn rhagfynegiad manwl iawn.
Rhagfynegiadau
A. Mae cysylltiad rhwng hyd sbring a faint o bwysau sy'n cael ei roi arno.
B. Rydw i'n meddwl, os ydw i'n ychwanegu mwy o bwysau at y sbring, y bydd yn mynd yn hirach ac efallai y bydd yr estyniad a'r pwysau mewn cyfrannedd 芒'i gilydd.
C. Rydw i'n meddwl, os ydw i'n dyblu'r pwysau ar y sbring, y bydd yr estyniad hefyd yn dyblu. Efallai fod estyniad y sbring a'r pwysau mewn cyfrannedd union 芒'i gilydd.
Esboniad
Rydw i鈥檔 meddwl hyn oherwydd rydw i wedi defnyddio mesuryddion newton 芒 sbringiau y tu mewn iddynt, ac maen nhw'n mynd yn hirach wrth i mi ychwanegu pwysynnau. Mae graddfeydd wedi'u hysgrifennu ar ochr y mesuryddion newton i fesur grym, ac mae'r bylchau rhwng y llinellau graddfa yn hafal wrth ychwanegu lluosrifau o'r un pwysau.
Gellir profi'r rhagfynegiad hwn yn y labordy.
Newidynnau
Mae pob rhagfynegiad mewn gwaith ymarferol yn awgrymu rhyw fath o berthynas rhwng newidyn annibynnolY newidyn sy'n cael ei newid., a newidyn dibynnolY newidyn sy'n cael ei fesur.. I wneud yn si诺r ein bod ni'n ymchwilio i sut mae newid un newidyn yn unig yn effeithio ar y newidyn dibynnol, rydyn ni'n cadw'r newidynnau eraill yr un fath. Y rhain yw'r newidynnau rheoli.
Question
Beth yw'r newidyn annibynnol yn yr arbrawf hwn?
Y pwysau sy'n cael ei ychwanegu at y sbring.
Question
Beth yw'r newidyn dibynnol yn yr arbrawf hwn?
Hyd neu estyniad y sbring.
Question
Beth yw'r newidynnau rheoli yn yr arbrawf hwn?
Rhaid defnyddio'r un sbring drwy gydol yr arbrawf. Dylid darllen hyd y sbring (neu estyniad) o'r un lle ar gyfer pob mesuriad.