大象传媒

Casglu, dadansoddi a gwerthuso canlyniadauBarnu cryfder y dystiolaeth

Dan y manylebau TGAU newydd yng Nghymru, bydd gwaith ymarferol Gwyddoniaeth nawr yn cael ei arholi. Bydd yr uned hon yw cynorthwyo disgyblion i baratoi am yr arholiad ymarferol.

Part of FfisegSgiliau ymarferol

Barnu cryfder y dystiolaeth

Mae gwyddonwyr yn gallu bod yn hyderus yn eu casgliadau os ydyn nhw wedi casglu tystiolaeth gryf yn yr arbrawf. Cyn cadarnhau cysylltiad rhwng newidynnau, byddan nhw'n gwerthuso eu dulliau arbrofol a'u technegau mesur, ac yn adolygu eu data.

Dyma rai cwestiynau y gallai fod angen i ti eu hystyried wrth werthuso dy arbrawf.

Dull

Gwerthuso'r dull/techneg arbrofol/gwella cywirdeb.

  • Oedd yna unrhyw hapgyfeiliornadau wrth fesur, ee cyfeiliornad amser ymateb, paralacs? Wnest ti geisio eu lleihau nhw?
  • Pa mor fanwl gywir oedd dy fesuriadau, ee wnest ti ddefnyddio offer 芒 chydraniad uwch a'i ddarllen at y rhaniad lleiaf?
  • Oedd yna unrhyw gyfeiliornadau systematig, ee cyfeiliornadau sero yn yr offer?
  • Oedd dy ddull cymryd canlyniadau yn dda, neu wnest ti gamgymeriadau?
  • Oes yna unrhyw ffynonellau anghywirdeb yn dy ddull, ee wnest ti gadw'r newidynnau rheoli'n gwbl gyson?

Awgrymu gwelliannau i'r dull/techneg mesur i wella hyder yn y data a'r casgliad.

  • Beth wnest ti'n dda a beth allet ti ei wella?
  • Beth fyddet ti鈥檔 ei wneud yn wahanol y tro nesaf?
  • Allet ti awgrymu gwelliannau i'r dull a fyddai'n cynyddu'r hyder yn y canlyniad, ee maint sampl mwy, mwy o ailadroddiadau, camera arafu lluniau i ddangos uchder adlamu neu synwyryddion cyfrifiadur i gael gwared ar gyfeiliornadau amser ymateb.

Gwerthuso cryfder tystiolaeth/data

Ailadroddadwyedd. Pa mor ailadroddadwy yw dy ganlyniadau? Oedd dy ganlyniadau'n amrywio'n fawr? Oedd gennyt ti unrhyw bwyntiau allan ohoni ar y graff, neu ddarlleniadau afreolaidd yn y tabl? Sut gallet ti wirio'r rhain? Wnest ti gymryd digon o ddarlleniadau wedi'u hailadrodd a chyfrifo cymedr? Ydy maint y sampl yn ddigon mawr?

Atgynyrchioldeb. Oedd grwpiau eraill wedi dilyn dull tebyg a chael yr un graffiau neu batrymau yn eu canlyniadau, ee wyt ti wedi cymharu dy graffiau a dy ddata 芒 grwpiau eraill, gwahanol oedd yn dilyn yr un dull, i gadarnhau bod y casgliadau yr un fath? Oedd amrediad y newidyn annibynnol yn ddigon mawr i ddangos patrwm?