Gwella dy fesur
Trachywiredd ac ansicrwydd
Ceisia fesur yn fwy manwl gywir. Defnyddia offeryn 芒 chydraniad llai, a'i ddarllen at y darlleniad lleiaf posibl.
Bydd pren mesur A yn rhoi darlleniad mwy manwl gywir ac yn lleihau'r ansicrwydd yn dy ganlyniad.
Mae ansicrwydd o 1 mm mewn 25 mm yn 4 %.
Mae ansicrwydd o 1 cm mewn 2.5 cm yn 40 %. Mae hyn ddeg gwaith yn fwy.
Sut rydyn ni'n cyfrifo ansicrwydd?
\({\%{\text{~ansicrwydd y darlleniad}}}=\frac{\text{cydraniad yr offeryn}\times 100\%}{\text{darlleniad}}\)
Y cydraniad yw'r rhaniad lleiaf ar yr offeryn.
Question
Beth yw ansicrwydd cydraniad o 0.01 ml mewn 5.52 ml?
(0.01 梅 5.52) 脳 100 % = 0.18 %
Question
Beth yw ansicrwydd cydraniad o 0.5 ml mewn 5.5 ml?
(0.5 梅 5.5) 脳 100 % = 9.1 %