Hapgyfeiliornadau
Camgymeriadau gan y sawl sy'n gwneud y mesur yw hapgyfeiliornadau, ac fel arfer maen nhw'n digwydd oherwydd amseru'n anghywir, neu ddarllen yr offeryn yn anghywir. Mae hi'n bwysig ceisio lleihau hapgyfeiliornadau, neu gyfyngu ar eu heffaith, wrth fesur.
Mae cyfeiliornadau amser ymateb a chyfeiliornadau paralacsPan mae rhywbeth yn edrych yn wahanol wrth edrych arno o safleoedd gwahanol. yn enghreifftiau o hapgyfeiliornadau.
Cyfeiliornad paralacs
Mae cyfeiliornad paralacs yn digwydd os yw disgybl yn methu 芒 darllen y mesuriad ar lefel llygad. Mae'n gallu achosi i鈥檙 darlleniad fod yn rhy uchel neu'n rhy isel.
Cyfeiliornadau systematig (cyfeiliornadau sero)
Mae cyfeiliornadau sero yn cael eu hachosi gan gyfarpar diffygiol sydd ddim yn ailosod i sero yn iawn.
Cyn i ti ddechrau mesur, gwiria fod yr offer mesur yn rhoi darlleniad o sero ar gyfer mewnbwn o sero.
Byddai cyfeiliornad sero yn effeithio ar bob darlleniad rwyt ti'n ei gymryd. Byddai'r glorian ddigidol 0.02 g allan ohoni ar bob m脿s rwyt ti'n ei fesur a byddai'r mesurydd grym 1 N allan ohoni.