大象传媒

Casglu, dadansoddi a gwerthuso canlyniadauMaint sampl a chanlyniadau afreolaidd

Dan y manylebau TGAU newydd yng Nghymru, bydd gwaith ymarferol Gwyddoniaeth nawr yn cael ei arholi. Bydd yr uned hon yw cynorthwyo disgyblion i baratoi am yr arholiad ymarferol.

Part of FfisegSgiliau ymarferol

Maint sampl a chanlyniadau afreolaidd

Canlyniad afreolaidd yw canlyniad sydd ddim yn cyd-fynd 芒 phatrwm y canlyniadau eraill. Mae'n anomaledd.

Bydd ailadrodd y mesuriadau lawer gwaith, neu greu maint sampl mawr i'w ddadansoddi, yn gwella cywirdeb. Mae hi'n hawdd sylwi ar ganlyniadau afreolaidd yn y data a'u tynnu nhw allan, gan arwain at gyfrifiad mwy manwl gywir o'r cymedr.

Edrych ar y chwe chanlyniad canlynol a gafodd eu cymryd gan ddisgybl.

0.63, 0.71, 0.64, 0.69, 1.20, 0.67

Y canlyniad afreolaidd yw 1.20. Mae'n rhy uchel o'i gymharu 芒'r canlyniadau eraill.

Question

Cyfrifa gymedr y canlyniadau heb y darlleniad afreolaidd.

Camer芒u arafu lluniau

Weithiau, efallai bydd rhywbeth yn symud yn rhy gyflym i ni gymryd darlleniad cywir.

Gallwn ni ddefnyddio camera arafu lluniau i ffilmio p锚l sy'n bownsio i fyny yn erbyn graddfa i weld yr uchder mae'r b锚l yn ei gyrraedd.

Bydd hyn yn gwella manwl gywirdeb y mesuriad.