Arddangos y canlyniadau
Yn y rhan hon o'r arholiad, bydd gofyn i ti ddadansoddi a gwerthuso'r data rwyt ti wedi'u cofnodi yn rhan gyntaf yr arbrawf.
Lluniadu graffiau a siartiau
Mae llawer o ddulliau o arddangos y data, ond fel rheol bydd rhaid i ti luniadu graff llinell.
Siartiau cylch
Gellir defnyddio siartiau cylch i ddangos cyfansoddiad rhywbeth, o'i gymharu 芒'r data yn eu cyfanrwydd. Mae pob adran yn gategori neu'n enw, ac mae maint y darn o'r cylch yn cynrychioli canran o'r cyfan. Enghraifft o hyn yw sut mae gwahanol ffynonellau adnewyddadwy ac anadnewyddadwy yn darparu cyflenwad trydan y Deyrnas Unedig, fel canran o gyfanswm yr egni sy'n cael ei gyflenwi.
Graffiau bar
Rydyn ni'n defnyddio graffiau bar os yw'r echelin-\(\text{x}\) yn ystod o gategor茂au, enwau neu labeli (newidynnau categor茂aidd) a'r echelin-\(\text{y}\) yn gallu bod yn unrhyw werth rhifiadol (newidyn di-dor). Un enghraifft o hyn fyddai'r uchder mae p锚l golff yn ei gyrraedd wrth adlamu oddi ar wahanol arwynebau. Mae'r uchder adlamu yn newidyn di-dor ac mae'r gwahanol fathau o arwyneb yn newidynnau categor茂aidd. Gallwn ni hefyd luniadu graffiau bar i ddangos rhifau sefydlog neu arwahanol (newidyn amharhaol) ar yr echelin-\(\text{x}\), ee misoedd y flwyddyn neu nifer y coesau sydd gan anifeiliaid a phryfed (2, 4, 6, 8).
Graffiau llinell
Rydyn ni'n defnyddio graffiau llinell os yw'r ddwy echelin yn newidynnau di-dor oherwydd maen nhw'n gallu bod ag unrhyw werth rhifiadol. Un enghraifft bosibl o hyn fyddai graff i ddangos faint o amser mae cas cacen papur yn ei gymryd i ddisgyn o wahanol uchderau.