大象传媒

Casglu, dadansoddi a gwerthuso canlyniadauLlunio graff llinell

Dan y manylebau TGAU newydd yng Nghymru, bydd gwaith ymarferol Gwyddoniaeth nawr yn cael ei arholi. Bydd yr uned hon yw cynorthwyo disgyblion i baratoi am yr arholiad ymarferol.

Part of FfisegSgiliau ymarferol

Llunio graff llinell

Graff gwag. Echelin y yw'r Newidyn dibynnol (yr hyn sy'n cael ei fesur). Echelin x yw'r Newidyn annibynnol (yr hyn sy'n cael ei newid).
  • Mae'r newidyn annibynnol yn mynd ar yr echelin-\(\text{x}\) a'r newidyn dibynnol ar yr echelin-\(\text{y}\).
  • Efallai mai newidyn A fyddai'r pwysau sy'n cael ei ychwanegu at sbring (N) a newidyn B fyddai hyd y sbring (cm).
  • Rhaid i echelinau \(\text{x}\) ac \(\text{y}\) y graff fod yn llinol 鈥 rhaid i bob sgw芒r fynd i fyny yr un faint bob tro.
  • Rhaid i'r ddwy echelin fod wedi'u labelu'n llawn 芒'r uned gywir.
  • Dylai fod y graff wedi'i raddio fel ei fod yn llenwi o leiaf hanner y papur graff i'r ddau gyfeiriad.
  • Ddylai'r cyfyngau ar yr echelinau \({\text{x}}\) ac \(\text{y}\) ddim mynd i fyny fesul 3 s, 6 s, 7 s, na 9 s, defnyddia 1 s, 2 s, neu 5 s a lluosrifau o'r rhain, er enghraifft mae 10 s, 20 s, 40 s, 50 s yn dda oherwydd maen nhw'n hawdd eu plotio a'u darllen.
  • Cysyllta'r pwyntiau wedi'u plotio 芒 phren mesur i dynnu llinell neu gromlin y ffit orau. Paid ag uno'r dotiau.

Graddiant y graff

Graff 芒'r teitl聽Llinell ffit orau. Echelin x yw'r Uchder (cm), ac echelin y yw'r Pwysau (kg). Mae llinell yn mynd drwy nifer o bwyntiau ar y graff. Cyfrifwyd y graddiant i 1, 2.

Efallai bydd gofyn i ti ganfod graddiant y graff llinell i ganfod mesur fel y cysonyn sbring neu gyflymiad cerbyd.

I wneud hyn, bydd angen i ti wneud triongl mawr ar y graff a dod o hyd i rannau fertigol a llorweddol y triongl.

Y graddiant yw'r \(\frac{\text{newid yn y swm fertigol}}{\text{newid yn y swm llorweddol}}\)