大象传媒

ElectromagneteddAnwythiad electromagnetic

Os oes cerrynt trydanol yn llifo mewn gwifren, bydd grym yn gweithredu arni a'i symud. Mae troelli magnet mewn coil o wifren yn cynhyrchu trydan. Mae newidyddion yn newid maint folteddau eiledol.

Part of FfisegTrydan, egni a thonnau

Anwythiad electromagnetic

Gall magnet a choil o wifren gael eu defnyddio i gynhyrchu cerrynt trydanol. Mae foltedd yn cael ei gynhyrchu pan fydd magnet yn symud mewn coil o wifren. Enw鈥檙 broses hon yw . Bydd cyfeiriad y foltedd sy鈥檔 cael ei anwytho yn newid pan fydd y magnet yn symud o鈥檙 coil eto. Gall y cyfeiriad newid hefyd os yw p么l arall y magnet yn cael ei symud i mewn i鈥檙 coil.

Os yw鈥檙 coil yn rhan o gylched gyflawn, yna bydd cerrynt yn cael ei anwytho yn y gylched.

Sylwa nad oes foltedd yn cael ei anwytho pan mae鈥檙 magnet yn llonydd, hyd yn oed os yw鈥檙 magnet y tu mewn i鈥檙 coil.

I gynyddu鈥檙 anwythiad foltedd rhaid:

  • symud y magnet yn gynt
  • ychwanegu mwy o droadau i鈥檙 coil
  • cynyddu cryfder y magnet
Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 4, Diagram yn dangos bar magnet y tu allan i goil gwifren wedi鈥檌 gysylltu ag amedr. Nid oes cerrynt., 1. Magnet bar yn gorffwys y tu allan i goil sydd wedi鈥檌 gysylltu ag amedr nad yw鈥檔 dangos cerrynt