大象传媒

Newidyddion

Mae newidyddion yn cael eu defnyddio i gynyddu neu i leihau foltedd ceryntau eiledol. Mae newidydd yn cynnwys dau o goiliau gwifren wedi鈥檜 clymu o amgylch craidd metel.

Diagram o newidydd sy'n dangos mewnbwn y cerrynt eiledol (c.e.), y maes magnetig yn y canol, a鈥檙 allbwn cerrynt eiledol (c.e.).

Ar un o鈥檙 coiliau mae foltedd eiledol yn gweithredu arno (y coil cynradd). Mae hyn yn achosi maes magnetig sy鈥檔 newid (eiledol) i ffurfio yn y craidd. Mae鈥檙 coil arall (y coil eilaidd) yn y maes magnetig hwn, ac felly mae foltedd eiledol yn cael ei anwytho ynddo.

Bydd maint y foltedd eilaidd yn dibynnu ar nifer y troeon ar y ddau goil - y cynradd a鈥檙 eilaidd 鈥 ac ar faint y foltedd c.e. sy鈥檔 gweithredu ar y coil.

Y berthynas sy鈥檔 cysylltu鈥檙 nifer o droeon ar bob coil a鈥檙 foltedd yw

\(\frac{\text{V}_{1}}{{\text{V}_{2}}} = \frac{\text{N}_{1}}{{\text{N}_{2}}}\)

pan mai:

  • V1 yw鈥檙 foltedd ar y coil cynradd
  • V2 yw鈥檙 foltedd wedi鈥檌 anwytho yn y coil eilaidd
  • N1 yw nifer y troeon yn y coil cynradd
  • N2 yw nifer y troeon yn y coil eilaidd

Enghraifft wedi'i chyfrifo

Cyfrifa'r foltedd sy'n cael ei gymryd o goil eilaidd newidydd y prif gyflenwad (230 V), sydd 芒 11,500 tro yn y coil cynradd a 600 tro yn y coil eilaidd.

\(\frac{\text{V}_{1}}{{\text{V}_{2}}} = \frac{\text{N}_{1}}{{\text{N}_{2}}}\)

\({\text{V}_{2}} = {230}\times\frac {600}{11,500} = {12{\text{ V}}}\)