Cyfrifo foltedd
Mae'r gymhareb rhwng y folteddGwahaniaeth potensial cell, cyflenwad trydanol neu gydran drydan. Mae鈥檔 cael ei fesur mewn foltiau, 鈥榁鈥. yng nghoiliau newidyddDyfais drydanol sy鈥檔 cynyddu, neu鈥檔 lleihau, gwahaniaeth potensial (foltedd) cerrynt eiledol. Os ydy鈥檙 gwahaniaeth potensial yn cael ei gynyddu, mae鈥檙 cerrynt yn lleihau. Os ydy鈥檙 gwahaniaeth potensial yn lleihau, mae鈥檙 cerrynt yn cynyddu. yr un fath 芒 chymhareb nifer y troeon yn y coiliau.
Gallwn ni ddangos y berthynas hon 芒鈥檙 hafaliad hwn.
\(\frac{\text{foltedd cynradd}}{\text{foltedd eilaidd}}{~=~}\frac{\text{troeon y coil cynradd}}{\text{troeon y coil eilaidd}}\)
Gallwn ni hefyd ysgrifennu hyn fel
\(\frac{\text{V}_{1}}{{\text{V}_{2}}} = \frac{\text{N}_{1}}{{\text{N}_{2}}}\)
Mae gan newidyddion codi fwy o droeon ar y coil eilaidd nag ar y coil cynradd.
Mae gan newidyddion gostwng lai o droeon ar y coil eilaidd nag ar y coil cynradd.
Enghraifft wedi'i chyfrifo
Mae gan newidydd 20 o droeon ar y coil cynradd a 400 ar y coil eilaidd. Beth yw'r foltedd allbwn os yw'r foltedd mewnbwn yn 500 V?
\(\frac{\text{V}_{1}}{{\text{V}_{2}}} = \frac{\text{N}_{1}}{{\text{N}_{2}}}\)
Felly
\(\frac{\text{V}_{2}}{{\text{V}_{1}}} = \frac{\text{N}_{2}}{{\text{N}_{1}}}\)
\(\frac{\text{V}_{2}}{500} = \frac{400}{20}\)
\(\text{V}_{2}= 500 \times \left (\frac{400}{20} \right )\)
\(\text{V}_{2} = {10,000{\text{ V}}}\)