Deall amseroedd y ferf
Cofia fod modd defnyddio'r ferf yn y ffordd hir (cwmpasog) neu'r ffordd fer (cryno). Mae yna hefyd wahanol amseroedd i'r ferf 鈥 presennol/dyfodol, gorffennol ac amherffaith.
Mae'r ferf gryno yn fwy ffurfiol a fel arfer defnyddio'r ferf gwmpasog a wnawn ni pan yn siarad bob dydd.
Dyma enghraifft o ferf gwmpasog.
Presennol/Dyfodol | Gorffennol | Amherffaith |
Rydw i'n... | Rydw i wedi... | Roeddwn i'n (arfer)... |
Rwyt ti'n... | Rwyt ti wedi... | Roeddet ti'n... |
Mae e/hi'n... | Mae e/hi wedi... | Roedd e/hi... |
Rydyn ni'n... | Rydyn ni wedi... | Roedden ni'n... |
Rydych chi'n... | Rydych chi wedi... | Roeddech chi'n... |
Maen nhw... | Maen nhw wedi... | Roedden nhw'n... |
Presennol/Dyfodol | Rydw i'n... |
---|---|
Gorffennol | Rydw i wedi... |
Amherffaith | Roeddwn i'n (arfer)... |
Presennol/Dyfodol | Rwyt ti'n... |
---|---|
Gorffennol | Rwyt ti wedi... |
Amherffaith | Roeddet ti'n... |
Presennol/Dyfodol | Mae e/hi'n... |
---|---|
Gorffennol | Mae e/hi wedi... |
Amherffaith | Roedd e/hi... |
Presennol/Dyfodol | Rydyn ni'n... |
---|---|
Gorffennol | Rydyn ni wedi... |
Amherffaith | Roedden ni'n... |
Presennol/Dyfodol | Rydych chi'n... |
---|---|
Gorffennol | Rydych chi wedi... |
Amherffaith | Roeddech chi'n... |
Presennol/Dyfodol | Maen nhw... |
---|---|
Gorffennol | Maen nhw wedi... |
Amherffaith | Roedden nhw'n... |
Dyma enghraifft o ferf gryno.
Presennol/Dyfodol | Gorffennol | Amherffaith |
Prynaf i | Prynais i | Prynwn i |
Pryni di | Prynaist ti | Prynet ti |
Pryniff e/hi neu Prynith e/hi | Prynodd e/hi | Prynai e/hi |
Prynwn ni | Prynasom ni | Prynem ni |
Prynwch chi | Prynasoch chi | Prynech chi |
Prynant hwy | Prynasant hwy | Prynent hwy |
Presennol/Dyfodol | Prynaf i |
---|---|
Gorffennol | Prynais i |
Amherffaith | Prynwn i |
Presennol/Dyfodol | Pryni di |
---|---|
Gorffennol | Prynaist ti |
Amherffaith | Prynet ti |
Presennol/Dyfodol | Pryniff e/hi neu Prynith e/hi |
---|---|
Gorffennol | Prynodd e/hi |
Amherffaith | Prynai e/hi |
Presennol/Dyfodol | Prynwn ni |
---|---|
Gorffennol | Prynasom ni |
Amherffaith | Prynem ni |
Presennol/Dyfodol | Prynwch chi |
---|---|
Gorffennol | Prynasoch chi |
Amherffaith | Prynech chi |
Presennol/Dyfodol | Prynant hwy |
---|---|
Gorffennol | Prynasant hwy |
Amherffaith | Prynent hwy |
Mae'n ddigon cyffredin cael trafferth gyda'r ferf gryno 鈥 os wyt ti mewn penbleth ceisia feddwl am ffurf gwmpasog (hir) y ferf.
Question
Beth sydd o'i le yn yr enghraifft ganlynol?
Canodd fy chwaer mewn bandiau amrywiol ers talwm.
Mae 'Canodd' yn anghywir. Ystyria beth yw ffurf hir 'canodd' - 'mae fy chwaer wedi canu'.
Mae angen defnyddio amser amherffaith y ferf yn lle'r gorffennol fan hyn, gan fod y weithred yn rhywbeth a oedd yn arfer cael ei wneud ers talwm.
Y frawddeg gywir yw Canai fy chwaer mewn bandiau amrywiol ers talwm.
Ymarfer
Question
Ysgrifenna ffurf gwmpasog 'canu' yn y presennol a ffurf gryno'r ferf yn y gorffennol. Mae'r enghraifft gyntaf wedi'ei gwblhau i ti:
Cwmpasog | Cryno |
Rydw i'n canu | Canais i |
Cwmpasog | Rydw i'n canu |
---|---|
Cryno | Canais i |
Cwmpasog | Cryno |
Rydw i'n canu | Canais i |
Rwyt ti'n canu | Canaist ti |
Mae e/hi'n canu | Canodd ef/hi |
Rydyn ni'n canu | Canasom ni |
Rydych chi'n canu | Canasoch chi |
Maen nhw'n canu | Canasant hwy |
Cwmpasog | Rydw i'n canu |
---|---|
Cryno | Canais i |
Cwmpasog | Rwyt ti'n canu |
---|---|
Cryno | Canaist ti |
Cwmpasog | Mae e/hi'n canu |
---|---|
Cryno | Canodd ef/hi |
Cwmpasog | Rydyn ni'n canu |
---|---|
Cryno | Canasom ni |
Cwmpasog | Rydych chi'n canu |
---|---|
Cryno | Canasoch chi |
Cwmpasog | Maen nhw'n canu |
---|---|
Cryno | Canasant hwy |