Defnyddio ffurf amhersonol y ferf mewn brawddeg
Pan wyt ti'n defnyddio鈥檙 ferf amhersonol, cofia na ddylai goddrych (subject) fod yn y frawddeg. Felly does dim person yn gwneud y weithred yn uniongyrchol.
Dyma enghreifftiau o ffurfiau amhersonol y ferf: gwelwyd, anfonir, darllenwyd, bwytir, prynid.
Ni ddylet ysgrifennu hyn felly:
sonnir yr awdur yn ei nofel...
Yn y frawddeg hon, mae goddrych, sef 鈥榶r awdur', felly dyna'r gwall 鈥 does dim goddrych i ferf amhersonol. Dylai'r ferf fod fel hyn:
sonia'r awdur yn ei nofel...
Yn yr un modd ni ddylet ysgrifennu:
gwelir Mair geffyl du
Dylai ddweud: gwelodd Mair geffyl du
Mair yw'r goddrych a'r ceffyl ydy'r gwrthrych.
Ond os nad wyt ti'n enwi neb, byddai'r ffurf amhersonol o'r ferf yn gywir sef:
gwelir ceffyl du
Cofia mai gwrthrych y ferf sy'n ateb beth i'r ferf. 'Gwelodd' yw'r ferf, 'Mair' yw'r goddrych, yr un sy'n gwneud y weithred, a'r ceffyl yw'r gwrthrych, sef yr hyn sy'n ateb beth i'r ferf.
Wrth egluro'r gwall gellid dweud mai trydydd person unigol amser presennol y ferf sydd ei angen sef gwelodd (hi)
.