Ysgrifennu a dweud rhifau
Wrth ddweud rhifau cyfan, cofia werth lle'r digidau gwreiddiol.
Yn y Gymraeg mae dwy ffordd o ddweud rhifau ar 么l \({10}\). Yn draddodiadol, ac wrth gyfeirio at ddyddiadau ac amser, fel arfer rydyn ni鈥檔 dweud:
- un ar ddeg
- deuddeg
- tri ar ddeg
- pedwar ar ddeg
- pymtheg
- un ar bymtheg
- dau ar bymtheg
- deunaw (ac nid tri ar bymtheg)
- pedwar ar bymtheg
- ugain
Mae鈥檙 dull hwn o rifo yn parhau wedyn fesul ugain.
Ar ben hyn mae gyda ni eiriau ar gyfer niferoedd benywaidd a gwrywaidd. Felly:
- dwy ferch
- tair dynes
- pedair gwraig
- dwy ferch ar bymtheg (ar gyfer \({17}\) merch)
Mae patrwm diddorol wrth ddisgrifio amser: tair eiliad, tri munud, tair awr, tri diwrnod, tair wythnos, tri mis, tair blynedd.
Fel arall rydyn ni鈥檔 defnyddio ffordd fwy uniongyrchol o ddweud y rhifau.
Er enghraifft rydyn ni鈥檔 dweud 鈥渦n deg dau鈥 am \({12}\), ac mae gwerth lle y digidau yn amlwg.
Felly hefyd gyda 鈥榯ri chant dau ddeg a naw鈥 ar gyfer \({329}\). (Cofia mai \({12}\) ydy 鈥榙euddeg鈥, ac mai \({20}\) ydy 鈥榙au ddeg鈥).
Yn yr un modd, mae colofnau鈥檙 miloedd, y degau o filoedd a鈥檙 cannoedd o filoedd fel arfer yn cael eu disgrifio gyda鈥檌 gilydd. Dyma enghreifftiau:
Rhif | Dywedwn |
\({7,000}\) | saith mil |
\({67,000}\) | chwe deg saith mil |
\({167,000}\) | cant chwe deg saith mil |
Rhif | \({7,000}\) |
---|---|
Dywedwn | saith mil |
Rhif | \({67,000}\) |
---|---|
Dywedwn | chwe deg saith mil |
Rhif | \({167,000}\) |
---|---|
Dywedwn | cant chwe deg saith mil |
Enghraifft
Gallwn ni ysgrifennu鈥檙 rhif \({3,147,286}\) mewn geiriau fel hyn:
tair miliwn, cant pedwar deg saith mil, dau gant wyth deg a chwech.
Question
Ysgrifenna鈥檙 rhif \({4,235,225}\) mewn geiriau.
Pedair miliwn, dau gant tri deg pum mil, dau gant dau ddeg a phump.
Question
Ysgrifenna 'dau ddeg tair mil a phum deg chwech' mewn ffigurau.
\({23,056}\)