大象传媒

Ffurf indecs safonol

Enw arall ar ffurf indecs safonol ydy ffurf safonol. Mae鈥檔 ddefnyddiol iawn wrth ysgrifennu rhifau mawr iawn neu fach iawn.

Diagram yn dangos y pellter rhwng yr Haul a'r Ddaear

Yn y ffurf safonol, rydyn ni鈥檔 ysgrifennu'r rhif bob amser fel: \({A}\times{10}^{n}\)

Mae \({A}\) bob amser rhwng \({1}\) a \({10}\).

Mae \({n}\) yn dweud wrthon ni sawl lle i symud y pwynt degol.

Enghraifft

Ysgrifenna \({15,000,000}\) yn y ffurf indecs safonol.

Ateb

\({15,000,000} = {1.5}\times{10,000,000}\)

Gallwn ni ei ailysgrifennu hyn fel:

\({1.5}\times{10}\times{10}\times{10}\times{10}\times{10}\times{10}\times{10}\)

\(= {1.5}\times{10}^{7}\)

Gelli di drosi rhifau o鈥檙 ffurf safonol i rifau cyffredin, ac yn 么l eto. Edrycha ar yr enghreifftiau hyn:

\({3}\times{10}^{4} = {3}\times{10,000} = {30,000}\)

(Gan fod \({10}^{4} = {10}\times{10}\times{10}\times{10} = {10,000}\))

\({2,850,000} = {2.85}\times{1,000,000} = {2.85}\times{10}^{6}\)

Gwna'n siwr fod y rhif cyntaf rhwng \({1}\) a \({10}\).

\({0.000467} = {4.67}\times{0.0001} = {4.67}\times{10}^{-4}\)