Talgrynnu i nifer benodol o leoedd degol
Cyfrif lleoedd degol
Mae lleoedd degol yn cael eu cyfrif o鈥檙 pwynt degol:
Felly, mae gan y rhif \({5.1492}\) bedwar lle degol ac mae gan \({4.34}\) ddau le degol.
I dalgrynnu rhif i nifer penodol o leoedd degol, edrycha ar y ffigur yn y lle degol nesaf.
Os ydy e鈥檔 llai na \({5}\) talgrynna i lawr.
Os ydy e鈥檔 \({5}\) neu fwy, talgrynna i fyny.
Question
Talgrynna \({7.2648}\) i \({2}\) le degol
I dalgrynnu i \({2}\) le degol, edrycha ar y ffigur yn y trydydd lle degol. \({4}\) ydy鈥檙 ffigur, felly talgrynna i lawr.
Felly, \({7.2648} = {7.26}\) (\({2}\) le degol)
Question
Talgrynna \({8.352}\) i \({1}\) lle degol
I dalgrynnu i un lle degol, edrycha ar y ffigur yn yr ail le degol. \({5}\) ydy鈥檙 ffigur, felly talgrynna i fyny.
Felly, \({8.352}\) = \({8.4}\) (\({1}\) lle degol)
I dalgrynnu rhif i nifer penodol o leoedd degol felly, mae'n rhaid i'r ateb fod 芒'r nifer hwnnw o leoedd degol, hyd yn oed os oes rhaid i ti ychwanegu un sero neu fwy.
Er enghraifft, mae talgrynnu \({3.40021}\) i ddau le degol yn rhoi \({3.40}\) (\({2}\) le degol).
Mae angen ysgrifennu鈥檙 \({2}\) le degol, er mai sero ydy鈥檙 ail rif, i ddangos dy fod wedi talgrynnu i ddau le degol.
Cofia edrych ar y ffigur ar 么l yr un sydd o ddiddordeb i ti. Os ydy e鈥檔 llai na \({5}\), talgrynna i lawr. Os ydy e鈥檔 \({5}\) neu fwy, talgrynna i fyny.