Ffigurau ystyrlon
Mae talgrynnu \({12.756}\) neu \({4.543}\) i \({1}\) lle degol yn ymddangos yn synhwyrol, gan fod y ffigurau talgrynedig yn agos iawn at y gwerth go iawn.
\({12.756}\) = \({12.8}\) (\({1}\) lle degol)
\({4.543} = {4.5}\) (\({1}\) lle degol)
Ond beth sy鈥檔 digwydd os wyt ti鈥檔 talgrynnu rhif bach iawn i \({1}\) lle degol?
\({0.00546} = {0.0}\) (\({1}\) lle degol)
\({0.00213} = {0.0}\) (\({1}\) lle degol)
Dydy hyn ddim yn ateb sydd o werth. Ffordd arall o ganfod ateb bras ydy defnyddio ffigurau ystyrlon.
Cyfrif ffigurau ystyrlon
Mae ffigurau ystyrlon yn dechrau gyda'r rhif cyntaf sydd ddim yn sero, felly anwybydda bob sero ar y blaen, ond nid y rhai yn y canol. Edrycha ar yr enghreifftiau canlynol:
O鈥檙 ffigur ystyrlon cyntaf ymlaen, rhaid cyfrif pob sero. Dim ond y seroau ar y dechrau sydd ddim yn cyfrif.
Question
Faint o ffigurau ystyrlon sydd gan y rhif canlynol?
\({0.3007}\)
Mae gan \({0.3007}\) bedwar ffigur ystyrlon.
Question
Faint o ffigurau ystyrlon sydd gan y rhif canlynol?
\({2.01}\)
Mae gan \({2.01}\) dri ffigur ystyrlon.
Question
Faint o ffigurau ystyrlon sydd gan y rhif canlynol?
\({0.001023}\)
Mae gan \({0.001023}\) bedwar ffigur ystyrlon.