Talgrynnu ffigurau ystyrlon
Mae鈥檙 dull ar gyfer talgrynnu i nifer penodol o ffigurau ystyrlon bron yn union yr un fath 芒鈥檙 dull ar gyfer talgrynnu i nifer penodol o leoedd degol.
Mae angen edrych ar y rhif ar 么l yr un sydd o ddiddordeb i ti, i weld a ydy e鈥檔 fwy neu鈥檔 llai na \({5}\). Os ydy e鈥檔 llai na \({5}\), talgrynna i lawr. Os ydy e鈥檔 \({5}\) neu fwy, talgrynna i fyny.
Question
Talgrynna \({0.0724591}\) i \({3}\) ffigur ystyrlon.
I dalgrynnu i dri ffigur ystyrlon, edrycha ar y pedwerydd ffigur ystyrlon. \({5}\) ydy鈥檙 ffigur, felly talgrynna i fyny.
Felly, \({0.0724591} = {0.0725}\) (\({3}\) ffigur ystyrlon).
Question
Talgrynna \({0.2300105}\) i \({4}\) ffigur ystyrlon.
I dalgrynnu i bedwar ffigur ystyrlon, edrycha ar y pumed ffigur ystyrlon. \({1}\) ydy鈥檙 ffigur, felly talgrynna i lawr.
Felly, \({0.2300105} = {0.2300}\) (\({4}\) ffigur ystyrlon).
Er bod \({0.2300}\) yr un fath 芒 \({0.23}\), rhaid cynnwys y seroau er mwyn dangos dy fod wedi talgrynnu i \({4}\) ffigur ystyrlon.
Question
Talgrynna \({235.86}\) i \({3}\) ffigur ystyrlon.
\({236}\)
Y trydydd ffigur ystyrlon ydy \({5}\) sy鈥檔 cael ei ddilyn gan \({8}\), felly talgrynna i fyny.
Question
Talgrynna \({235.86}\) i \({1}\) ffigur ystyrlon.
\({200}\)
Yr ail ffigur ystyrlon ydy \({3}\), felly mae鈥檙 ffigur ystyrlon cyntaf yn aros fel \({2}\). Rhaid cynnwys y ddau sero hyn i sicrhau bod y gwerth yn gywir.