大象传媒

HTML

Iaith raglennu syml er mwyn llunio yw HTML (Hyper Text Markup Language). Mae鈥檔 defnyddio set o dagiau wedi鈥檜 rhagddiffinio sydd wedyn yn cael eu dehongli a鈥檜 darparu/arddangos gan y .

Gweithio gyda HTML

Fel arfer mae HTML yn cael ei ysgrifennu (neu ei gynhyrchu) mewn dwy ffordd:

  1. gan ddefnyddio golygydd testun plaen, er enghraifft Notepad, Notepad++, TextPad, ac yn y blaen
  2. gan ddefnyddio golygydd WYSIWYG (What You See Is What You Get), er enghraifft Dreamweaver, iWeb, SeaMonkey Composer, ac yn y blaen

Golygydd testun plaen

Mae golygydd fel Notepad yn cynnig mwy o reolaeth dros y cod o鈥檌 gymharu 芒 golygydd WYSIWYG gan fod pob nod sy鈥檔 ffurfio鈥檙 HTML a鈥檙 dudalen we sy鈥檔 dilyn yn cael ei deipio 芒 llaw. Yr anfantais yw bod hon yn broses araf.

Golygydd WYSIWYG

Mae鈥檙 dudalen we yn cael ei chynllunio, a鈥檙 cynnwys yn cael ei ysgrifennu a鈥檌 arddullio, gan ddefnyddio cyfres o offer. Mae鈥檔 bosibl cael rhagolwg o鈥檙 dudalen yn y porwr rhagosodedig sydd yn y . Mae hyn yn gwneud y broses o lunio tudalen we yn llawer cyflymach oherwydd does dim angen llawer o wybodaeth am HTML gan ei fod yn cael ei gynhyrchu鈥檔 awtomatig. Er hyn, mae鈥檔 bosibl golygu鈥檙 cod 芒 llaw o hyd.

Meddalwedd creu gwefannau ar sgrin gliniadur yn dangos gwedd ochr flaen tudalen we a gwedd ochr gefn tudalen we ar ffurf sgript.