Siopa ar-lein
Mae bron iawn bob peth sydd ar gael ar y stryd fawr, neu mewn canolfan siopa, i鈥檞 gael ar-lein hefyd. Er enghraifft, mae archfarchnadoedd yn cynnig danfon nwyddau mae pobl yn eu harchebu drwy eu gwefan i鈥檞 cartrefi.
Mae prynu eitemau digidol a鈥檜 llwytho i lawr yn gyffredin heddiw hefyd. Mae eitemau a oedd yn arfer cael eu gwerthu ar ffurf cyfryngau ffisegol (CDs, DVDs, llyfrau) erbyn hyn yn cael eu llwytho i lawr yn syth i gyfrifiadur neu ddyfais llaw cwsmer.
Prynu nwyddau ar-lein
Mae鈥檙 broses o brynu nwyddau ar-lein fel arfer yn cynnwys:
- pori drwy gatalog ar-lein
- rhoi eitemau mewn rhithfasged
- mynd i rith fan talu
- dewis dull talu a danfon
- cadarnhau archeb
- cadarnhau cludiant (drwy ebost neu SMS)
Manteision
- Hwylustod - siopa o unrhyw gyfrifiadur sydd 芒 chysylltiad rhyngrwyd unrhyw bryd a does dim angen teithio, talu am barcio, ciwio yn y siop, ac yn y blaen.
- Mwy o amrywiaeth - mwy o siopau ar-lein nag sydd ar unrhyw stryd fawr neu mewn unrhyw ganolfan siopa.
- Nwyddau rhatach - mae mwy o gystadleuaeth rhwng adwerthwyr (ar raddfa fyd-eang weithiau) yn dod 芒 phrisiau i lawr.
- Hygyrchedd - gall pobl sydd ag anabledd sy鈥檔 effeithio ar eu gallu i symud ddewis cael nwyddau wedi鈥檜 danfon i鈥檞 cartrefi.
- Cymharu - drwy ddefnyddio鈥檙 rhyngrwyd mae鈥檔 hawdd ymchwilio鈥檔 drylwyr iawn i gynnyrch neu wasanaethau, gan gymharu prisiau a manylion cynnyrch er mwyn cael y fargen orau.
Anfanteision
- Pryderon yn ymwneud 芒 diogelwch wrth dalu 芒 cherdyn credyd dros y rhyngrwyd.
- Dim cyfle i archwilio鈥檙 nwyddau鈥檔 ffisegol cyn prynu.
- Nwyddau鈥檔 cael eu difrodi wrth gael eu cludo.
- Nwyddau ddim yn cyrraedd mewn pryd, neu ddim yn cyrraedd o gwbl.
- Pryderon yngl欧n 芒 pha wybodaeth mae adwerthwyr yn eu cadw am gwsmeriaid, er enghraifft arferion prynu.