大象传媒

Effeithiau e-fasnach ar fusnesau

Mae siopau鈥檙 stryd fawr bellach yn canfod eu hunain yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am fusnes ar y stryd fawr ac ar-lein.

Gwerthu nwyddau ar-lein

Manteision

  • Agor y farchnad i gwsmeriaid yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  • Galluogi cwmn茂au llai i gystadlu yn erbyn cwmn茂au mawr.
  • Lleihau nifer y staff a/neu鈥檙 siopau stryd fawr a thrwy hynny鈥檔 lleihau costau.
  • Rhoi鈥檙 dewis i gwsmeriaid siopa 24 awr y diwrnod heb orfod talu fawr mwy.

Anfanteision

  • Mwy o gystadleuaeth - mae busnesau a oedd ar un adeg yn cystadlu yn erbyn y siop yn y dref agosaf bellach yn canfod eu hunain yn cystadlu ar raddfa fyd-eang.
  • Lleihau nifer y staff - gan fod mwy o gystadleuaeth, mae鈥檔 bosibl y bydd cwmn茂au lleol yn gorfod lleihau eu gweithlu.
  • Cost ailstrwythuro - mae鈥檔 bosibl na fydd y newid i e-fasnach yn digwydd yn llyfn, ac yn sicr bydd angen rhywfaint o fuddsoddiad.
  • Pryderon cwsmeriaid - os bydd siopau鈥檙 stryd fawr yn cael eu cau mewn ymdrech i arbed arian, mae鈥檔 bosibl na fydd cwsmeriaid y mae鈥檔 well ganddyn nhw siopa ar y stryd fawr yn teimlo鈥檔 gyfforddus wrth brynu ar-lein, ac y byddan nhw鈥檔 mynd i rywle arall.

Mwy o ddibyniaeth ar y rhyngrwyd

Erbyn heddiw, mae pwysau ar gwmn茂au ac unigolion i gael mynediad i鈥檙 rhyngrwyd er mwyn gwneud pethau bob dydd fel cyflwyno archebion neu edrych am fanylion mewn catalog. Mae mentrau wedi鈥檜 sefydlu er mwyn sicrhau bod cynifer o wasanaethau ag sy鈥檔 bosibl ar gael ar y rhyngrwyd, gan gynnwys e-lywodraeth, lle mae鈥檔 bosibl cysylltu ag adrannau鈥檙 llywodraeth, er enghraifft Cyllid y Wlad, drwy ddefnyddio gwefannau diogel.