大象传媒

CanrannauCanran o swm

Ystyr 鈥榗anran鈥 ydy 鈥榶 cant鈥. Os ydy 70 y cant o鈥檙 boblogaeth yn berchen ar anifail anwes, mae hynny鈥檔 golygu bod 70 o bob cant o bobl yn berchen ar anifail anwes. Ystyr y symbol 鈥%鈥 ydy 鈥榶 cant鈥.

Part of MathemategCanrannau

Canran o swm

Mae gallu canfod canran swm yn aml yn ddefnyddiol. Er enghraifft, rwyt ti'n cael gwybod bod pris tocyn bws yn codi \({5}\%\) ac rwyt ti eisiau gwybod faint o arian fydd ei angen arnat ti bob wythnos.

Dyma ddwy ffordd o wneud hyn:

Canfod \({1}\%\) o鈥檙 swm drwy ei rannu 芒 \({100}\).

Canfod \({x}\%\) o鈥檙 swm drwy luosi \({1}\%\) o鈥檙 swm ag \({x}\).

Dull 1

Question

Mae gan Robin flwch sy鈥檔 dal \({60}\) beiro. Mae \({20}\%\) o鈥檙 beiros yn goch. Faint ydy hynny?

Question

Mewn dosbarth o \({25}\) o ddisgyblion, mae \({24}\%\) yn byw mewn fflat. Sawl disgybl sy鈥檔 byw mewn fflat?

Dull 2

Canfod \({x}\%\) o swm drwy luosi鈥檙 swm hwnnw ag \(\frac{x}{100}\)

Mae hyn yn cyfuno鈥檙 rhannu a鈥檙 lluosi o ddull \({1}\) mewn un swm.

Question

Y llynedd enillodd Sali gyflog o \(\pounds{20,000}\). Eleni mae hi wedi cael codiad cyflog o \({8}\%\).

a) Faint yn fwy o arian y mae Sali鈥檔 ei ennill?

b) Beth ydy ei chyflog newydd?