Gwneud cop茂au wrth gefn ac archifo data
Mae angen gwneud copi wrth gefn o dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer. am lawer o resymau:
- gallai defnyddiwr ddileu ffeil bwysig
- gall gyriant disg caledDyfais sy鈥檔 cael ei defnyddio i storio symiau mawr o ddata. beidio 芒 gweithio
- gall firwsRhaglen fach sydd wedi鈥檌 hysgrifennu er mwyn achosi niwed i gyfrifiadur. chwalu data
- gallai t芒n ddinistrio鈥檙 adeilad lle roedd y data鈥檔 cael eu storio (yn aml iawn bydd busnesau鈥檔 storio eu copi wrth gefnCopi o ffeiliau pwysig sy鈥檔 cael ei gadw ar wah芒n rhag ofn i鈥檙 ffeiliau gwreiddiol gael eu colli neu eu niweidio. oddi ar y safle)
Pe bai cwmni wedi colli data, a heb wneud cop茂au wrth gefn, gallai鈥檙 canlyniadau fod yn drychinebus, yn enwedig 芒 rhai mathau o ddata. Pe bai busnes yn colli manylion yr holl daliadau y mae鈥檔 aros amdanynt gallai fynd yn fethdalwr, oherwydd ni fyddai鈥檔 gwybod faint o arian sy鈥檔 ddyledus iddo na gan bwy.
Nid yw鈥檙 rhan fwyaf o bobl sy鈥檔 defnyddio cyfrifiaduron yn eu cartrefi yn gwneud cop茂au wrth gefn o鈥檜 data, ond mae鈥檔 fwy na thebyg y bydd y rhai sydd yn gwneud copi wrth gefn yn defnyddio disg caled allanol.
Pa mor aml y mae cop茂au wrth gefn yn cael eu gwneud?
Mae rhai mathau o ddata yn fwy gwerthfawr na鈥檌 gilydd, ac mae rhai mathau o ddata鈥檔 cael eu newid yn amlach na鈥檌 gilydd. Dyma鈥檙 mathau o faterion y mae鈥檔 rhaid eu hystyried wrth benderfynu pa mor aml i wneud cop茂au wrth gefn o ddata.
Dylai gwerth y data bennu pa mor aml y mae copi wrth gefn yn cael ei wneud.
Os nad yw鈥檙 data鈥檔 newid yn aml does dim angen gwneud cop茂au wrth gefn mor aml. Efallai y byddai gwneud copi wrth gefn ar 么l pob newid yn ddigon. Os yw鈥檙 data鈥檔 newid yn aml dylai鈥檙 defnyddiwr wneud copi wrth gefn yn aml (bob min nos efallai).
Archifo
Mae rhai data sydd ddim yn cael eu defnyddio鈥檔 aml iawn, ond bod posibilrwydd y byddant yn ddefnyddiol yn y dyfodol, neu y bydd eu hangen yn y dyfodol. Mewn achosion fel hyn, mae鈥檔 bosibl archifo鈥檙 data. Mae data sydd wedi鈥檜 harchifo鈥檔 cael eu cop茂o i gyfrwng storio addas (DVDDisg crwn, plastig sy鈥檔 cael ei ddefnyddio i storio cerddoriaeth, fideo neu ddata. Mae DVDs yn gyfrwng storio optegol, tebyg i CDs a disgiau Blu-ray. neu d芒p magnetig o bosibl) yna鈥檔 cael eu storio鈥檔 ddiogel. Yn dilyn hyn mae鈥檙 data gwreiddiol yn cael eu dileu o鈥檙 system gyfrifiadurol er mwyn cael mwy o le storio ar gyfer data newydd.