大象传媒

Cyfraddau adweithiauEgni actifadu [Haen uwch yn unig]

Mae cyflymder adweithiau cemegol yn amrywio. Mae cyfradd adwaith yn mesur faint o gynnyrch sy'n cael ei wneud mewn amser penodol. Er mwyn i adweithiau ddigwydd, rhaid i ronynnau'r adweithyddion wrthdaro.

Part of CemegCyfradd newid cemegol

Egni actifadu [Haen uwch yn unig]

Yr egni actifadu yw isafswm yr egni sydd ei angen ar gyfer 鈥榞wrthdrawiadau llwyddiannus鈥 lle mae鈥檙 atomau yn yr adweithyddion yn ad-drefnu i ffurfio cynhyrchion. Gallwn ni gynrychioli hyn ar ddiagram lefel egni.

Graff egni yn erbyn hynt adwaith sydd wedi'i gatalyddu. Mae angen llai o egni i ddechrau'r adwaith, ond mae cyfanswm y golled net yn aros yn gyson.

Mae鈥檙 diagram yn dangos bod yr egni actifadu鈥檔 is wrth ddefnyddio catalydd. Mae hyn yn golygu bod mwy o鈥檙 gwrthdrawiadau鈥檔 llwyddiannus ar dymheredd penodol. Felly mae catalydd yn cynyddu cyfradd yr adwaith drwy ostwng yr isafswm egni sydd ei angen ar gyfer 鈥榞wrthdrawiadau llwyddiannus鈥.