Pecynnau lluniadu
Mae delweddau sy鈥檔 cael eu gwneud 芒 phecynnau lluniadu yn cynnwys llinellau, siapiau a chyfesurynnau. Mae pecynnau lluniadu hefyd yn cael eu galw鈥檔 becynnau lluniadu fector. Yn gyffredinol, mae pecyn lluniadu鈥檔 cynnig llawer o nodweddion tebyg i baentiad.
Graffigau fector
Mae graffigau fector yn seiliedig ar berthnasoedd mathemategol 芒 phwyntiau rheoli sy鈥檔 ffurfio鈥檙 ddelwedd. Nid yw鈥檙 cyfrifiadur yn storio gwybodaeth am bob picselUn o鈥檙 unedau unigol (sy鈥檔 aml yn cael eu galw鈥檔 ddotiau) sy鈥檔 ffurfio delwedd.. Mae鈥檙 pwyntiau hyn yn cael eu cysylltu gan linellau a chromliniau sy鈥檔 cael eu galw鈥檔 llwybrau fector neu fectorau.
Gwrthrychau fector
Si芒p sydd wedi鈥檌 ffurfio o lwybrau fector yw gwrthrych fector. Mae鈥檔 bosibl golygu pob gwrthrych ar wah芒n, er enghraifft, newid si芒p, trawiad, llenwad, maint a lleoliad. Mae trawiad yn dilyn amlinelliad y llwybr fector ac mae llenwad yn ychwanegu lliw i鈥檙 ardal y tu mewn i鈥檙 llwybr.
Manteision
- Ffeil lai - yn wahanol i ddelweddau didfap, nid yw graffigau fector yn storio dataGwerthoedd, llythrennau neu rifau fel arfer. am bob picsel unigol. Ar gyfer darlun mawr, er enghraifft poster, byddai ffeil graffig fector yn llawer llai na ffeil delwedd didfapDelwedd wedi鈥檌 gwneud o bicseli. Mae鈥檙 math yma o ddelwedd yn colli ei hansawdd os yw ei lled a/neu ei huchder yn cael eu cynyddu..
- Newid graddfa - oherwydd y perthnasoedd mathemategol, pan wyt ti鈥檔 newid maint graffigyn fector nid yw鈥檙 ddelwedd yn colli ei hansawdd. Byddai鈥檔 bosibl addasu graffigyn fector maint stamp i鈥檞 ddefnyddio ar boster, a byddai鈥檙 ddelwedd yn dal yn glir.
Anfantais
Nid yw鈥檔 bosibl i graffigau fector edrych mor realistig 芒 didfapiau neu ffotograffau. Byddant bob amser yn edrych fel pe baent wedi鈥檜 cynhyrchu gan gyfrifiadur.