大象传媒

Hafaliadau a chyfrifiadau cemegolCynnyrch canrannol

Rydyn ni'n defnyddio hafaliadau geiriau a symbolau i ddangos gwybodaeth am adweithiau. Mae cadwraeth m脿s yn digwydd mewn adweithiau cemegol. Does dim atomau'n cael eu creu na'u dinistrio mewn adweithiau cemegol. Gan ein bod ni'n gwybod masau cymharol pob math o atom, gallwn ni ragfynegi masau'r cynhyrchion a'r adweithyddion mewn adweithiau cemegol.

Part of CemegNatur sylweddau ac adweithiau cemegol

Cynnyrch canrannol

Ar gyfer m脿s penodol o , gallwn ni gyfrifo鈥檙 m脿s mwyaf o penodol y byddai鈥檔 bosibl ei ffurfio. Y m脿s hwn yw鈥檙 cynnyrch damcaniaethol. Y cynnyrch gwirioneddol yw m脿s y cynnyrch sy鈥檔 cael ei wneud wrth gynnal yr adwaith go iawn.

Cyfrifo cynnyrch canrannol

Rydyn ni鈥檔 defnyddio鈥檙 fformiwla hon i gyfrifo cynnyrch canrannol:

\(\text{Cynnyrch canrannol}~=~\frac{\text{m脿s gwirioneddol}}{\text{m脿s disgwyliedig}} \times 100\)

Er enghraifft, os yw鈥檙 cynnyrch a ragfynegir yn 20 g ond y cynnyrch gwirioneddol yn 15 g:

Cynnyrch canrannol = (15 梅 20) 脳 100 = 75%

Colli cynnyrch

Mae cynnyrch 100 y cant yn golygu nad oes dim cynnyrch wedi鈥檌 golli, ac mae cynnyrch 0 y cant yn golygu nad oes dim cynnyrch wedi鈥檌 wneud. Mae鈥檙 cynnyrch canrannol yn gallu bod yn llai na 100 y cant am lawer o resymau. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys:

  • colli wrth hidlo
  • colli wrth
  • colli wrth drosglwyddo hylifau
  • yr adweithyddion ddim i gyd yn adweithio i wneud y cynnyrch

Purdeb canrannol

Gallwn ni gyfrifo purdeb canrannol sylwedd drwy rannu m脿s y cemegyn pur 芒 chyfanswm m脿s y sampl, ac yna lluosi鈥檙 rhif hwn 芒 100.