Gwneud halwynau anhydawdd [TGAU Cemeg yn unig]
I wneud halwyn anhydawddMethu hydoddi mewn hydoddydd penodol. Er enghraifft, mae tywod yn anhydawdd mewn d诺r., mae angen i ddau halwyn hydawddYn gallu hydoddi mewn hydoddydd. Er enghraifft, mae siwgr yn hydawdd mewn d诺r am ei fod yn hydoddi i greu hydoddiant siwgr. adweithio 芒鈥檌 gilydd mewn adwaith gwaddodAdwaith lle mae solid anhydawdd yn ffurfio wrth gymysgu hydoddiannau penodol..
Mae鈥檙 tabl yn dangos halwynau hydawdd ac anhydawdd.
Hydawdd | Anhydawdd |
Pob nitrad | Dim |
Pob halwyn sodiwm, potasiwm ac amoniwm cyffredin | Dim |
Y rhan fwyaf o sylffadau cyffredin | Calsiwm sylffad a bariwm sylffad |
Y rhan fwyaf o gloridau cyffredin | Arian clorid |
Carbonadau lithiwm, sodiwm, potasiwm ac amoniwm | Y rhan fwyaf o garbonadau cyffredin |
Hydawdd | Pob nitrad |
---|---|
Anhydawdd | Dim |
Hydawdd | Pob halwyn sodiwm, potasiwm ac amoniwm cyffredin |
---|---|
Anhydawdd | Dim |
Hydawdd | Y rhan fwyaf o sylffadau cyffredin |
---|---|
Anhydawdd | Calsiwm sylffad a bariwm sylffad |
Hydawdd | Y rhan fwyaf o gloridau cyffredin |
---|---|
Anhydawdd | Arian clorid |
Hydawdd | Carbonadau lithiwm, sodiwm, potasiwm ac amoniwm |
---|---|
Anhydawdd | Y rhan fwyaf o garbonadau cyffredin |
Gallwn ni weld o鈥檙 tabl bod arian clorid yn halwyn anhydawdd. Gallwn ni ei wneud drwy adweithio halwyn arian hydawdd 芒 halwyn clorid hydawdd.
Mae arian nitrad a sodiwm clorid yn ddau halwyn hydawdd. Pan mae eu hydoddiannau鈥檔 cael eu cymysgu, mae sodiwm nitrad hydawdd ac arian clorid anhydawdd yn ffurfio.
arian nitrad + sodiwm clorid 鈫 sodiwm nitrad + arian clorid
AgNO3(dyfr) + NaCl(dyfr) 鈫 NaNO3(dyfr) + AgCl(s)
Dyma hafaliad 茂onig y broses hon.
Ag+(dyfr) + Cl鈥(dyfr) 鈫 AgCl(s)
Mae鈥檙 arian clorid yn ymddangos fel gronynnau bach iawn mewn daliantCymysgedd o ddau sylwedd, y naill wedi鈥檌 wasgaru鈥檔 f芒n drwy鈥檙 llall. yng nghymysgedd yr adwaith 鈥 dyma鈥檙 gwaddodDaliant o ronynnau mewn hylif sy鈥檔 cael ei ffurfio pan mae sylwedd a oedd wedi ei hydoddi yn dod yn anhydawdd, ee mewn adwaith gwaddod.. Gallwn ni hidlo鈥檙 gwaddod, ei olchi 芒 d诺r ar y papur hidlo, ac yna ei sychu mewn ffwrn.
Gallwn ni ddefnyddio adwaith tebyg i brofi am bresenoldeb 茂onau sylffad. Mae cymysgu hydoddiant bariwm clorid (neu fariwm nitrad) 芒 hydoddiant sy鈥檔 cynnwys 茂onau sylffad yn ffurfio gwaddod gwyn.
MgSO4(dyfr) + BaCl2(dyfr) 鈫 BaSO4(s) + MgCl2(dyfr)
Dyma hafaliad 茂onig y broses hon.
Ba2+(dyfr) + SO42鈥(dyfr) 鈫 BaSO4(s)