大象传媒

TrawsffurfiadauFfactor graddfa ffracsiynol

Gellir trawsffurfio siapiau mewn sawl ffordd, yn cynnwys trawsfudo, cylchdroi, adlewyrchu a helaethu. Disgrifir maint helaethiad gan ei ffactor graddfa a disgrifir ei safle gan ganol yr helaethiad.

Part of MathemategTrawsffurfiadau

Ffactor graddfa ffracsiynol

Rwyt ti鈥檔 gwybod eisoes bod maint helaethiad yn cael ei ddisgrifio yn 么l ei ffactor graddfa.

Er enghraifft, mae ffactor graddfa o \({2}\) yn golygu bod pob hyd yn y si芒p newydd \({2}\) waith maint y gwreiddiol. Mae ffactor graddfa o \({3}\) yn golygu bod y si芒p newydd \({3}\) gwaith maint y gwreiddiol.

Mae鈥檔 dilyn felly bod ffactor graddfa o \(\frac{1}{2}\) yn golygu bod pob hyd yn y si芒p newydd hanner maint y gwreiddiol.

Enghraifft

I helaethu鈥檙 triongl 芒 ffactor graddfa \(\frac{1}{2}\) a chanol helaethiad O, gwna fel a ganlyn:

Image gallerySkip image gallerySlide 1 of 5, Canol helaethiad, Helaethu triongl 芒 ffactor graddfa o un hanner Triongl ongl sgw芒r.

Question

Beth ydy ffactor graddfa鈥檙 helaethiad yn y diagram hwn?

Diagram ffactor graddfa helaethiad

Cofia wirio pa un ydy鈥檙 gwrthrych a pha un ydy鈥檙 ddelwedd, er mwyn peidio 芒 drysu鈥檙 ffactorau graddfa. Er enghraifft, mae鈥檔 bosib camgymryd ffactor graddfa o \({2}\) am ffactor graddfa o \(\frac{1}{2}\), neu ffactor graddfa o \({3}\) am ffactor graddfa o \(\frac{1}{3}\).