Lluosi byr
I luosi \({237}\) 芒 \({4}\) heb ddefnyddio cyfrifiannell, gelli di ei osod allan fel hyn:
- Dechreua gyda \({4}\times{7}\), sef \({28}\), felly ysgrifenna鈥檙 \({8}\) a chario鈥檙 \({2}\) i golofn y degau.
- \({4}\times{3} = {12}\), ond cofia adio鈥檙 \({2}\) a gariwyd i gael \({14}\). Ysgrifenna鈥檙 \({4}\) a chario鈥檙 \({1}\) i golofn y cannoedd.
- \({4}\times{2} = {8}\), ac adio鈥檙 \({1}\) a gariwyd i gael \({9}\).
Felly \({237}\times{4} = {948}\).
Lluosi byr ydy鈥檙 enw ar y dull hwn.
Defnyddio grid lluosi
Mae gosod y rhifau mewn grid yn hwyluso鈥檙 cyfrifo. Yn y grid hwn dangoswn \({7}\times{4}\) fel:
Mae hyn yn arwain at grid cyflawn fel hyn:
Mae鈥檙 rhifau porffor ar waelod y tabl yn dod trwy adio鈥檙 rhifau ar y groeslin.
Rydyn ni鈥檔 gweld felly mai ateb \({237}\times{4} = {948}\).